12.06.20
Er gorfod gohirio Gŵyl Fwyd Caernarfon 2020 tan 2021 oherwydd feirws Corona Covid-19, mae’r pwyllgor yn dal i gyfarfod yn rheolaidd (dros y we) ac wedi bod yn brysur gyda bob math o weithgareddau gwahanol. Yr ŵyl sydd yn gweinyddu cyllid y cynllun Porthi Pawb yng Nghaernarfon, sy’n darparu dros 600 o brydau bwyd yn wythnosol i’r rhai sydd eu hangen. Rydym hefyd wedi bod yn trefnu gwahanol weithgareddau digidol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr, cogyddion ac i gynnal diddordeb yn yr ŵyl. Mae’r gyntaf i'w gweld ar ein tudalen Digwyddiadau, sef sgwrs ac arddangosfa coginio gyda Matt Guy. Ifan Tudur, aelod o’r pwyllgor trefnu sy'n sgwrsio efo Matt dros Zoom. Roedd Matt, o Ddeiniolen yn wreiddiol yn un o'r cogyddion a oedd yn coginio yn ein gŵyl cyntaf, ac yn y fideo mae’n paratoi 4 rysait gwahanol gan ddefnyddio Cig Eidion Luing Cymreig, wrth drafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei yrfa, dyfodol y diwydiant arlwyo a'r profiad o gael babi ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod cloi. Ar ddydd Sadwrn mi fyddwn yn cynnal ein Marchnad Arlein gyntaf. Ewch draw i’n tudalen Facebook ac ymunwch â ni yn y digwyddiadau rhwng 10 a 12 y bore a rhwng 8 a 10 y nos er mwyn siopa o’ch cartref a chanfod danteithion lu gan gwmniau sydd fel arfer yn dod i'r ŵyl. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd