Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei threfnu’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, ac rydan ni’n chwilio am bobl i wirfoddoli am ddwyawr ar ddiwrnod yr ŵyl ar 10 Mai 2025.
Eich prif ddyletswydd fyddai dosbarthu rhaglenni a chasglu cyfraniadau yn ein bwcedi. Mae’r Ŵyl ’leni’n debygol o gostio £60,000, felly mae pob ceiniog sy’n cael ei godi drwy’r bwcedi’n hollbwysig.
I gofrestru i wirfoddoli, dilynwch y ddolen hon.
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd