Amdanom Ni

Gŵyl Fwyd Caernarfon; pwy, beth, ble, pryd, pam (a sut)


Sut ddechreuodd y cyfan?

Sut ddechreuodd y cyfan?

Aelodau’r Grŵp yn y lansiad; Mai 2015

Cynhelir yr Ŵyl Fwyd yn flynyddol gan Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon, criw o wirfoddolwyr lleol sy’n cyfarfod yn rheolaidd drwy’r flwyddyn er mwyn rhoi trefniadau mewn lle ar gyfer yr ŵyl nesaf. Ffurfiwyd y grŵp ym mis Chwefror 2015 yn dilyn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd yn y dre.

Etholwyd Nici Beech yn gadeirydd, Eleri Lovgreen yn ysgrifennydd a Trystan Iorwerth ac Yasmin Khan yn drysoryddion.

Gwyl Fwyd Caernarfon

Y logo a ddyluniwyd gan Iestyn Lloyd.

Y peth cyntaf a wnaeth y grŵp oedd cynnal cystadleuaeth dylunio logo. Iestyn Lloyd o Gwmni Da a ddyluniodd y logo, wedi’i ysbrydoli gan ymdrechion disgyblion Ysgol Syt Hugh Owen. Dadorchuddiwyd y logo swyddogol yn ein lansiad ym mis Mai 2015, blwyddyn union cyn yr ŵyl cyntaf a gynhaliwyd ar 14 Mai 2016.

Ein hamcanion

Wrth ddatblygu’r ŵyl, fe nodwyd yr amcanion a’r egwyddorion isod, ac rydym yn benderfynol o lynu wrthyn nhw:

  • Adlewyrchu cymeriad a diwylliant Caernarfon
  • Dathlu bwyd lleol
  • Diddanu ac addysgu’r cyhoedd
  • Cydweithio â sefydliadau addysgol i ehangu profiadau disgyblion a myfyrwyr
  • Cynnwys busnesau bwyd lleol
  • Tynnu sylw at y broblem o wastraffu bwyd
  • Codi ymwybyddiaeth ynglŷn â bwyta’n iach

Y grŵp erbyn heddiw

gorymdaith-carnifal-cfon

Rŵan, gydag aelodau gwreiddiol a newydd, mae’r grŵp yn benderfynol o barhau i gynnal yr ŵyl a fu’n llwyddiannus iawn yn 2016 a 2017 (gan ddenu 10,000, yna 15,000, yna 20,000 o ymwelwyr i’r dre!). Ond, mae eu gallu i wneud hynny’n llwyr ddibynnol ar ddenu cyllid ac mae’r ymdrechion yn cynnwys ceisio am nawdd o ffynonellau addas a mynd ati’n rhagweithiol i godi arian, yn bennaf drwy drefnu a chynnal cyfres o ddigwyddiadau yn y misoedd yn arwain at yr ŵyl.

Yn seiliedig ar y gwyliau blaenorol a gynhaliwyd, amcangyfrifir cost o dros £25,000 i gynnal Gŵyl Fwyd Caernarfon 2019. Gan mai menter cwbl wirfoddol ydym, rydan ni wirioneddol angen eich cefnogaeth yn ein digwyddiadau. Gallech ddarganfod pa ddigwyddiadau allwch chi eu cefnogi’n y dyfodol agos drwy glicio yma, a gallech ddarllen am ein digwyddiadau blaenorol drwy glicio yma.

Erbyn hyn, mae’r grŵp wedi’i rannu ymhellach i 5 îs-grŵp:

  • Grŵp Cynnwys
  • Grŵp Nawdd
  • Grŵp Technegol
  • Grŵp Cyfathrebu
  • Grŵp Gwirfoddoli
Gwyl Fwyd Caernarfon

Bydd y grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd i ganolbwyntio ar eu meysydd penodol cyn dod ynghyd mewn cyfarfod misol o’r prif grŵp i gynnig a chytuno ar eu hargymhellion.

Mae aelodau’r grŵp yn dod o bob math o wahanol gefndiroedd, ond yr un peth sy’n ein huno ydi ein hoffter o fwyd a’r ffaith ein bod yn caru Caernarfon!

Sut allwch chi helpu?

  • Rydym bob amser yn croesawu aelodau newydd yn y grŵp ac unrhyw îs-grŵp
  • Gallech anfon unrhyw syniadau/awgrymiadau/sylwadau ynglŷn â’r ŵyl ei hun neu ynglŷn a ffyrdd o godi arian atom drwy e-bostio gwylfwydcaernarfon@gmail.com
  • Gallech wirfoddoli ar ddiwrnod yr ŵyl ac mewn digwyddiadau cysylltiedig – ychwanegwch eich henw at ein rhestr e-bost (wrth ymweld â’r dudalen hafan) er mwyn derbyn yr wybodaeth diweddaraf a cheisiadau am gymorth!

© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd