06/11/2019Roedd hi’n noson benigamp gyda’r arddangosfa gan Lewod Caernarfon mor arbennig ag erioed, gyda channoedd o bobl o bob oed yno yn gwylio. Roeddwn i, Menna ac Ifan ar y stondin yn gwerthu diodydd oer a’r candi fflos, a werthodd allan cyn i’r tan gwyllt ddechrau hyd yn oed! Diolch i Gisda am roi benthyg y peiriant candi fflos i ni ac am y siwgr. Mae’r criw rŵan yn ystyried opsiwn iachach fel trit ar gyfer y flwyddyn nesaf sy’n cyd-fynd efo’n gwerthoedd ar gyfer yr ŵyl o hyrwyddo deiet iachus. Ar y fan roedd Angharad a Sophie yn brysur yn gweini a gwneud paneidiau o de, coffi a siocled poeth - diolch i Morrisons a Penningtons am y rhoddion. Yn brysur yn coginio’r cwn poeth a’n cadw’r cawl yn ffrwtian oedd Nici ag Alun gyda’r diolch am y cawl yn mynd i gegin Antur Waunfawr ac i fecws Carlton am y bara a chigydd OG Owen am y selsig blasus. O’r stondin fwyd yn unig, rydym wedi codi dros £500! Eleni roedd criw o wirfoddolwyr allan yn y dorf gyda bwcedi yn helpu casglu arian ar gyfer Llewod Caernarfon ac i goffrau’r Ŵyl Fwyd 2020. Diolch o galon i bawb a roddodd tuag at yr achos a gobeithio i chi fwynhau’r arddangosfa hyfryd. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd