Prosiect Porthi Pawb yn helpu pobl Caernarfon yn ystod y pandemig

15.07.20


Ar ddechrau’r pandemig, roedd Chris Summers, Prif Gogydd yr Oystercatcher yn Rhosneigr, yn ceisio meddwl am ffordd o helpu henoed ac unigolion bregus Caernarfon. Felly fe sefydlodd gynllun Porthi Pawb.
 
Ar gychwyn y prosiect, roedd y criw yn defnyddio cegin Arlwyo Cae Gwyn  i ddarparu’r 70-80 pryd yr wythnos gyda 4 o wirfoddolwyr. Wrth i’r fenter fynd o nerth i nerth a’r galw’n cynyddu, mae nhw bellach yn defnyddio cegin Ysgol Syr Hugh Owen i baratoi o gwmpas 650 o brydau’r wythnos gyda chriw o 35 o wirfoddolwyr yn coginio ac yn dosbarthu i gartrefi yng Nghaernarfon. 
 
Mae Porthi Pawb yn dibynnu ar roddion bwyd a rhai o’r busnesau sydd wedi cyfranu ydi Bwydydd Harlech, y cigydd O. G. Owen a’r archfarchnadoedd lleol. A bellach, mae sefydliadau lleol megis Mantell Gwynedd ac Adra hefyd wedi cyfranu’n ariannol. 
 
Mae’r galw am brosiect fel hyn yn ystod y pandemig wedi bod yn amlwg, a diolch yn fawr i Chris a’r holl griw sy’n gwirfoddoli i helpu’r rhai hynny sydd angen cefnogaeth yma yng Nghaernarfon.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd