Noson hwyliog yn y Clwb Hwylio!

MAW 23, 2018 - SOPHIE


Er gwaetha’r eira a’r oerni nos Sadwrn, 18fed o Fawrth, brwydrodd griw brwd o gefnogwyr yr ŵyl i Glwb Hwylio Caernarfon i fwynhau noson Cawl a Chân.

Yn dilyn llwyddiant tîm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc yn gynharach yn y dydd, roedd y cawl nionyn Ffrengig a gafodd ei goginio gan Nici Beech a chegin Galeri yn llifo’n dda i foliau’r gynulleidfa – digon i gynhesu’r calonnau!

Roedd hi’n fraint cael y cerddor lleol sy’n gyfarwydd iawn i dafarndai a chymdeithasau’r dref erbyn hyn, Gwilym Bowen Rhys, i’n diddanu yn ystod y noson gyda detholiad hyfryd o ganeuon gwerin ac ambell gân wreiddiol. Hyfryd hefyd oedd cael cwmni’r bardd Iestyn Tyne, a ddarllenodd ychydig o gerddi fydd yn ymddangos yn ei gyfrol farddoniaeth newydd, sydd i’w chyhoeddi’n ystod yr haf.

Uchafbwynt y noson oedd y ddau yn perfformio gyda’i gilydd gan chwarae deuawd ffidil a chaneuon, gyda’r gynulleidfa yn ymuno i ganu clasuron fel ‘Does unman yn debyg i gartref’ a ‘Tân yn Llŷn’ i orffen noson arbennig.

Pwrpas cynnal y noson oedd i godi arian tuag at goffrau’r ŵyl er mwyn gallu ei chynnal am ddim i bawb i’w mwynhau. Braf felly oedd gallu ychwanegu £243 i’r coffrau.

“Dwi’n mwynhau Gŵyl Fwyd Caernarfon bob blwyddyn, ac yn gwerthfawrogi’r holl waith caled sy’n mynd i sicrhau llwyddiant y digwyddiad. Roedd hi’n hyfryd felly cael cyfrannu i noson yn codi arian at yr achos hwnnw. Mi gawson ni lot o hwyl yn adloni – ac mi roedd y cawl yn fendigedig!” – Iestyn Tyne

Hoffai’r pwyllgor ddiolch o galon i staff y Clwb Hwylio am y defnydd o’r adeilad ac i Galeri, Ffrwythau DJ, Penningtons, Nici Beech a Geraint Lovgreen am eu cyfraniadau tuag at y noson. Ac wrth gwrs, diolch o galon i Gwilym Bowen Rhys ac Iestyn Tyne am roi o’u hamser i’n cefnogi ac i’n galluogi i gynnal y noson!

Cofiwch gadw llygad yma ac ar ein cyfrifon Facebook a Twitter am fwy o ddigwyddiadau cyn yr ŵyl ar Fai 12fed!

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd