06/03/20Ddiwedd mis Chwefror, gyda storm Jorge ar ein gwartha, ymlwybrodd 10 cogydd gyda sosban llawn cyri draw i neuadd gymunedol Feed My Lambs yng Nghaernarfon. Y rheswm am y wledd oedd y noson cyri flynyddol, wedi ei threfnu gan griw Gŵyl Fwyd Caernarfon. Cystadleuaeth ydy hon, i greu y cyri mwyaf blasus. Felly mae deg cogydd yn gwneud digon o fwyd i bawb o’r 80 beirniad gael blas ar eu cyri. Ond, dim ond un enillydd all fod. Ac yn ei chipio hi am y trydydd tro ers i’r gystadleuaeth gael ei sefydlu oedd ‘Bhuna cyw iâr’ Rhys Edwards o’r Felinheli. Rhys ddaeth yn ail hefyd, Rhys Iorwerth tro hyn, gyda’i frawd Hywel yn dynn wrth ei sodlau. Am y tro cyntaf, cafodd y cyri llysieuol gorau ei wobrwyo hefyd eleni. Ac yn cipio’r gwobr honno gyda’i ‘Shahi Paneer’ oedd cogydd arall o’r Felinheli, Ifan Rhys (‘Rhys’ i weld yn enw lwcus eleni!). Diolch yn fawr iawn unwaith eto i Ifan Tudur am ei waith yn y gegin yn cadw trefn ar yr holl gyris a’r ategion, ac i Ann, Sophie, Eleri a Sion am eu sgiliau gweini gwych. Rydym yn ffodus iawn hefyd fod y ddau enillydd, Ifan a Rhys, wedi rhoi eu gwobr ariannol yn ôl i goffrau’r wyl. Diolch yn fawr iawn i chi’ch dau. Diolch hefyd ‘r 10 cogydd am gystadlu ac i pawb brynodd docyn i gael beirniadu. Rhwng popeth, codwyd bron i £700 drwy gynnal y noson. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd