MARCHNAD NADOLIG 2018

RHAGFYR 11, 2018 - CATRINSIRIOL


Er gwaetha’r glaw, roedd ysbryd y dathlu yn fyw ac yn iach yn y farchnad Nadolig yn Copa yng Nghaernarfon dydd Sadwrn, 8 Rhagfyr er mwyn codi arian at Gŵyl Fwyd Caernarfon 2019. Daeth amrywiaeth o stondinwyr yno i werthu cynnyrch bwyd a chrefft lleol; o emwaith ac addurniadau porslen Miss Marple Makes i Bragdy Lleu a’u cwrw Cymreig gwobrwyedig o Ddyffryn Nantlle. Daeth Jaspels i werthu seidr wedi ei wneud ar Ynys Môn, Ffyj Mam gyda danteithion ym mhob blas, Ty Siocled, yr artist Ffion Pritchard, Tredici, Canwyllau Eryri, a Catrin Angharad i werthu ei chryno ddisg ar gyfer y Nadolig.

Roedd yna stondin grefft wahanol iawn yno hefyd, yn rhoi’r cyfle i chi greu eich addurniadau eich hun ar gyfer y goeden. Mi fydd sawl Robin Goch ac Angel hyfryd yn addurno tai’r dref a’r cyffiniau eleni!

CO NI OFF 2019!

Mi arhosodd Sïon Corn yn y farchnad trwy’r dydd chwarae teg, yn cyfarfod y plant ac yn gwrando ar eu dymuniadau ar gyfer y Nadolig. Diolch o galon i Tŷ Siocled, Caernarfon am yr anrhegion siocled a oedd wedi eu gwneud yn arbennig ar gyfer y digwyddiad.

Bu criw o drefnwyr yr ŵyl hefyd yn brysur yn trefnu raffl, ac yn gwerthu ffedogau, llyfrau ryseitiau, a thocynnau i ddigwyddiadau codi arian fydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Cadwch olwg ar ein gwefan a’n tudalennau rhwydweithiau cymdeithasol am fwy o wybodaeth.

Linda o Bontnewydd enillodd y raffl gyda llaw, sef hamper llawn mins peis, cardiau Nadolig, llyfrau a nifer o nwyddau eraill wedi eu rhoi yn hael gan fusnesau lleol Caernarfon.

Codwyd £528 ar gyfer yr ŵyl, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb ddaeth i brynu, gwerthu a helpu ar y diwrnod!

Ein digwyddiad codi arian nesa fydd y Noson Gin fydd yn cael ei chynnal ar y 25 Ionawr, yn Tŷ Glyndŵr, Caernarfon. Tocynnau ar gael am £15 o Palas Print. Tan hynny, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd flasus!

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd