19/04/2024
Stiward Gŵyl Fwyd Caernarfon yn annog eraill i wirfoddoli Mae Lyn Jones wedi gwirfoddoli yn y ddwy Ŵyl Fwyd ddiwethaf, ac mae hi wedi trafod ei phrofiad er mwyn annog eraill i ddod yn wirfoddolwyr. Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal ar 11 Mai eleni, ac mae’r pwyllgor yn trio dod o hyd i bobol i roi dwy awr o’u hamser i stiwardio. Gwirfoddolodd Lyn am y tro cyntaf yn 2022, a daeth yn ei hôl y llynedd. Mae wedi sôn profiad mor braf yw siarad ag ymwelwyr i’r ŵyl, a helpu ar ddiwrnod mor bwysig i’r dre. Yn ôl Lyn: “Y tro cyntaf imi wirfoddoli ro’n i wrth ymyl Porth yr Aur a llynedd ro’n i ar Stryd y Castell. “Dwi wir yn mwynhau cymryd rhan yn y digwyddiad llwyddiannus bob blwyddyn a dwi’n falch o gyfrannu fy amser i ddigwyddiad mor arwyddocaol a phwysig i’r dref. “Dwi’n hoffi cwrdd â phobol leol ac ymwelwyr sydd wedi dod i’r dref am y dydd. “Mae gwirfoddoli yn gyfle da i hyrwyddo pwysigrwydd yr ŵyl yn ogystal â chael jangyl bach! “Dim ond dwy awr o fy amser mae’r Ŵyl yn gofyn amdano fo, ac mae o’n waith didrafferth a hwyliog, er enghraifft, yn cyfeirio pobol at stondinau mewn gwahanol rannau o’r dref, neu leoliadau toiledau. “Faswn i’n awgrymu unrhyw un sy’n medru rhoi eu hamser i wirfoddoli. Mae’n fraint medru dweud eich bod chi wedi helpu ar ddiwrnod mor bwysig.” Os hoffech chi, fel Lyn, wirfoddoli yng Ngŵyl 2024, llenwch y ffurflen hon. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2026 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd