MAW 26, 2018 - SOPHIE
Eleni, Hywel Griffith oedd ein prif gogydd ar gyfer y Gala Fwyd flynyddol yng Ngholeg Menai. Mae Hywel wedi ennill sawl gwobr am ei ddawn yn y gegin ac erbyn hyn, ef yw prif gogydd bwyty Beach House ym Mae Oxwich. I gynorthwyo Hywel, daeth myfyrwyr arlwyo Coleg Menai i ddangos eu doniau hwy hefyd. Bu’r pwyllgor wrthi’n brysur yn addurno’r ‘stafell a cafwyd gwledd hyfryd a llwyth o hwyl! Hoffem ddiolch i Hywel Griffith, i Goleg Menai a’u myfyrwyr, i Iechyd Da, Caernarfon am eu nawdd ac i Dacsi Huw am y cludiant! Ymlaen i’r ŵyl! Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd