Gŵyl Fwyd Caernarfon yn y Noson Tân Gwyllt

RHA 15, 2016 - CATRINSIRIOL


Hoffai trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon ddiolch i fynychwyr Noson Tân Gwyllt Caernarfon nos Sadwrn 5ed o Dachwedd am ein helpu i godi arian at Ŵyl Fwyd 2017 drwy brynu bwyd a diod o’r fan.

Wedi ei drefnu gan Lewod Caernarfon ar ran Cyngor y Dref, roedd arddangosfa wych o dân gwyllt dros y Fenai yn denu cannoedd o wylwyr i’r Promenâd, er y tywydd oer.

Hoffai criw Gŵyl Fwyd Caernarfon ddiolch yn fawr i Arlwyo Hafan ac i’r cigyddion teuluol OG Owen & Son a Dafydd Wyn Jones a’i Fab, Blas yr Allt, Becws Carlton a Morrisons Caernarfon am gyfrannu eu cynnyrch ardderchog ar gyfer y noson. Mae eu haelioni yn golygu bod holl elw’r noson yn mynd tuag at Ŵyl Fwyd 2017, sy’n cael ei chynnal ar Fai 13eg, 2017.

Er mwyn sicrhau bod mynediad am ddim i bawb i’r ŵyl, bydd nifer o ddigwyddiadau codi arian yn digwydd dros y chwe mis nesaf yn cynnwys noson blasu gwin a swper gala.

Cadwch olwg ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd