Gŵyl Fwyd Caernarfon yn galw am wirfoddolwyr o bob oed

CHW 20, 2018 - CATRINSIRIOL


Mae’r ŵyl fwyd yn y dref gyfagos wedi troi’n uchafbwynt blynyddol i nifer gyda dros 15,000 o ymwelwyr yn heidio i’r dref o bell a chyfagos i ddathlu bwydydd blasus a chynnyrch lleol. Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r ŵyl eleni, ar ddydd Sadwrn, Mai 12fed 2018, beth am wirfoddoli?

Mae’r trefnwyr, sy’n wirfoddolwyr eu hunain, yn chwilio am dros 100 o bobl i helpu am awr fach neu ddwy ar y diwrnod mawr. Yn casglu arian mewn bwced, dosbarthu rhaglenni neu gyfeirio ymwelwyr i’r cyfeiriad iawn – mae croeso i unrhyw un gymryd rhan.

CO NI OFF 2019!

Codi pres ar gyfer gwyl 2018 drwy werthu cwn poeth a cawl yn Noson Tân Gwyllt Caernarfon 2017.

Er nad yw’n bosib gaddo awyr glir, mae’r awyrgylch yn siwr o fod yn hamddenol a braf. Gyda’r ŵyl yn ymestyn i fwy o ardaloedd y dref gan gynnwys Doc Fictoria a Phorth yr Aur, dyma’r cyfle perffaith i fod yn rhan o ddathblygiad cyffrous yn y dre.

Hyd yn oed am awr neu ddwy, dyma’r cyfle i unigolion, grwpiau o ffrindiau a theuluoedd fod yn rhan o un o uchafbwyntiau’r gwanwyn. Am fwy o wybodaeth neu i ddangos diddordeb, e-bostiwch katherineowen71@yahoo.co.uk

Ddim awydd gwirfoddoli? Beth am fynychu rhai o’r digwyddiadau codi arian yma:

  • Mawrth 8fed – Cinio Gala Mawreddog ym Mwyty Friars Bangor gyda’r cogydd enwog Hywel Griffiths a myfyrwyr Coleg Menai. Tocyn £30.
  • Mawrth 17eg – Noson Cawl a Chân Ffrengig gyda Gwilym Bowen Rhys a Iestyn Tyne ygn Nghlwb Hwylio Caernarfon. Tocyn £10

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd