GŴYL FWYD CAERNARFON YN DERBYN £3,900 GYNLLUN GRANT CYMUNEDOL TESCO

RHAGFYR 06, 2018 - MARGED


Mae trefnwyr Gwyl Fwyd Caernarfon yn falch o gyhoeddi bod yr wyl wedi derbyn £3,900 o gynllun grant cymunedol Tesco ‘Bags of Help’.

Mae cynllun ‘Bags of Help’ yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag elusen amgylcheddol Groundwork er mwyn dosbarthu grantiau o’r arian sy’n cael ei gasglu gan werthiant bagiau Tesco i filoedd o brosiectau cymunedol pob blwyddyn.

Dywed Nici Beech, Cadeirydd Gŵyl Fwyd Caernarfon;

“Rydym yn falch iawn o dderbyn y grant hwn gan ‘Bags of Help’ gyda’r diolch yn mynd i drigolion lleol a bledleisiodd am yr ŵyl gyda’u ceiniogau glas a coch ym mwcedi Tesco Caernarfon drwy gydol Medi a Hydref. Mae’r arian yn werthfawr iawn i’n hymdrechion codi arian sy’n golygu y gallwn gadw Gŵyl Fwyd Caernarfon yn wyl am ddim ac agored i bawb o Gaernarfon a thu hwnt.

Mae’r cynllun ‘Bags of Help’ hefyd yn cydfynd gydag un o’n gwerthoedd ni, sef cadw’r ŵyl mor wyrdd a phosib. Rydym yn annog ein stondinwyr i ddefnyddio pecynnau sydd a modd i’w hailgylchu, yn gosod biniau ailgylchu o amgylch y dref, ac eleni rydym yn edrych mewn i system gwydrau peint gellir eu hailddefnyddio.”

Bydd ymdrechion codi arian yr ŵyl yn parhau’r penwythnos yma gyda Marchnad Nadolig yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Copa, Caernarfon ddydd Sadwrn, 8fed o Ragfyr 10:00 – 16:00. Bydd cynhyrchwyr a gwneuthurwyr bwyd a chrefft lleol yn gwerthu eu cynnyrch gydag ymweliad arbennig gan Sion Corn yn ei grotto. Bydd cyfle hefyd i brynnu tocynnau i nosweithiau codi arian eraill sydd ar y gweill gan yr ŵyl yn cynnwys Noson Gin, Cystadleuaeth Cyri a’r Noson Gala mawreddog – anrhegion arbennig ar gyfer y Nadolig.

CO NI OFF 2019!

Stondinwyr Marchnad Nadolig:

Miss Marple Makes

Bragdu Lleu

Jaspels Anglesey Craft Cider Ltd

Mountain Mead Ltd

Cheshire Pie

Fyj Mam

Ffion Pritchard Artist

Tredici Butchers & Deli

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd