Gŵyl Fwyd Caernarfon ddim am gael ei chynnal yn 2021

20/2/2021


Gyda thristwch rydym yn cyhoeddi na fydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal yn 2021. Er bod y sefyllfa bresennol gyda’r feirws i’w gweld yn gwella, a chynllun brechu Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddo’n dda iawn, nid oes sicrwydd y gallwn gynnal yr ŵyl fel yr oeddem wedi gobeithio ym mis Mai. 

Ers cychwyn y pandemig, a gohirio gŵyl 2020, rydym wedi bod yn parhau i gyfarfod fel pwyllgor drwy ddulliau digidol, a nifer ohonom hefyd wedi bod yn gwirfoddoli gyda chynllun Porthi Pawb a chynlluniau eraill yn y gymuned. Mae’r cysylltu diogel hyn wedi bod yn help i ni barhau i deimlo’n rhan o’r gymuned yng Nghaernarfon ac rydym yn edrych ymlaen at gael trefnu gŵyl gyhoeddus eto a dod at ein gilydd i ddathlu yr hyn sy’n gwneud y dref mor arbennig ac i groesawu ymwelwyr atom.

Dros y misoedd diwethaf bu’r criw trefnu hefyd yn brysur yn gweithio gydag unigolion a chwmnïau i gyflwyno nifer o ddigwyddiadau digidol a oedd yn gyfle i ddathlu bwyd a diod o Gymru ac i gysylltu gyda’n cefnogwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon yn ogystal â’r gefnogaeth ariannol gan Cywain i gynnal rhai o’r digwyddiadau.

Mae nifer fawr o’r ddigwyddiadau ar gael i’w gwylio eto ar ein sianeli youtube ac AM neu drwy ddilyn y dolenni ar ein gwefan www.gwylfwydcaernarfon.cymru. Ein bwriad yn awr yw ceisio cynllunio digwyddiadau cymunedol ar gyfer yr Hydref - os bydd yn ddiogel i ni wneud hynny - gan edrych ymlaen hefyd at weithio tuag at gynnig gŵyl werth chweil yn 2022.

Rydym yn cydymdeimlo’n fawr efo’r artistaid a’r busnesau hynny sydd wedi colli gwaith a chyfleon masnachu dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddwn ni fel criw gwirfoddol yn siŵr o fod allan yn y gymuned yn cynnig cymorth ble bo angen.

Edrychwch ar ôl eich hunain a’ch gilydd.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd