EBR 04, 2018 - SOPHIEOs ddarllenoch chi’n datganiad blaenorol, neu os ydych chi wedi gweld rai o bosteri’r ŵyl o amgylch y dre efallai, fe wyddwch ein bod yn ehangu eleni i leoliadau newydd a chyffrous iawn! Yn unol â gŵyl 2016 ac ’17, bydd Stryd Llyn, Y Maes a Stryd y Plas yn parhau’n rhan o’r digwyddiad. Ond, yn hytrach na llifo i lawr i Gei Llechi yn ôl yr arfer, bydd y stondinau’n ehangu i lawr o’r maes heibio Pendeitsh tuag at yr Anglesey Arms ac i lawr y Prom heibio Porth yr Aur a’r Clwb Hwylio. Bydd y prif lwyfan adloniant, ein stondinau bwyd stryd a’r bariau i’w canfod lawr ar y marina wrth swyddfa’r Docfeistr. Cynhelir yr arddangosfeydd coginio eleni wrth adeilad Archifdy Gwynedd, sydd ochr arall i’r marina, a bydd digwyddiad arbennig yn y Castell (bydd mynediad i’r Castell am ddim ar y dydd). Manylion pellach am gogyddion ac artistiaid y prif lwyfan i’w datgelu’n fuan! Mae’r darluniau uchod ac isod wedi eu dylunio ar ein cyfer er mwyn ceisio dangos sut disgwylir i’r ŵyl edrych ar ei newydd wedd yn 2018! Diolch yn fawr i Iestyn Tyne am fod yn fodlon creu rhain ar ein cyfer.
Bydd llwyfannau eraill i’w canfod ar dop Stryd Llyn (lle ceir adloniant gan gorau’r dref), tu allan i Bar Bach (dan ofal Gwilym Bowen Rhys), ac yn yr Anglesey Arms a Neuadd y Farchnad (dan ofal Sera). Bydd miwsig i’w glywed felly lle bynnag y byddwch yn yr ŵyl! Bydd y lloc anifeiliaid poblogaidd yn parhau ar un ochr i Gei Llechi ger Swyddfa’r Harbwrfeistr, a bydd gweithdai a choginio i blant dan arweiniad Luned Rhys Parri a Lisa Fearn yn cael eu cynnal yng nghyn-adeilad NatWest ar y Maes (diolch i GISDA). O ystyried maint daearyddol yr ŵyl eleni a’r ffaith y bydd hi’n gwesteio dros 100 o stondinau yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau eraill, bydd angen nifer mwy o wirfoddolwyr arni eleni nac yn y gorffennol!
Wrth iddi dyfu, bydd yn mynd yn gynyddol anodd i’r trefnwyr barhau i’w chynnal a chadw mynediad am ddim. Felly gofynnwn yn garedig iawn i bobl Gaernarfon a’r cyffiniau (a thu hwnt!) roi cwpl o oriau’n unig o’u diwrnod i’n helpu yn ystod yr ŵyl! Nid yw’r gwaith yn drwm ond mae’n gwbl werthfawr i ni wrth sicrhau rhediad llwyddiannus y diwrnod. Os allwch chi ein helpu, plîs cysylltwch â ni ar 01286 672943, drwy anfon e-bost at gwylfwydcaernarfon@gmail.com neu drwy anfon neges ar Facebook neu Twitter.
Gwerthfawrogwn unrhyw gynnig am gymorth. Diolch o galon o flaen llaw! Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd