Gweithdy Sushi gyda Phil McGrath

ION 28, 2018 - SOPHIE


Ar y 25ain o Ionawr 2018, cynhaliodd Phil McGrath (un o aelodau teyrngar ein grŵp!) weithdy sushi wrth iddo drawsnewid Caffi Te a Cofi i fwyty Siapaneaidd.  Bu Phil ac Ifan wrthi’n brysur yn paratoi 4kg o reis, yn ogystal â llysiau a chorgimwch cyn i bawb gyrraedd, ac wedyn cafodd y mynychwyr gyflwyniad i sushi – beth ydi o, rywfaint o’i hanes o a sut mae mynd ati i’w baratoi!

CO NI OFF 2019!

Yna, cafodd bawb eu gorsaf paratoi, eu papur ‘Nori’ (gwymon) a’u Makisu (mat bambŵ) eu hunain a chyfle i roi cyfarwyddiadau Phil ar waith!  Cafwyd andros o hwyl yn rowlio ac yn llenwi ac yn torri’r sushi afocado a ciwcymbyr (gyda chorgimwch pe dymunir), cyn ceisio eu bwyta â ‘chopsticks’! Cafwyd canmoliaeth i Phil am ei ddawn cyflwyno a’i natur hawddgar ac ar ddiwedd y noson roedd llond caffi o unigolion llond eu bol mewn hwyliau dda!

“Braf oedd gweld cymaint wedi dod i gefnogi, rhai wedi teithio o Ddinbych a Phwllheli hyd yn oed, ac eraill mor ifanc a deuddeg oed!  Wnes i wir fwynhau ond roedd hefyd yn agoriad llygad, do’n i ddim wedi sylweddoli cymaint o waith fyddai paratoi bwyd i 30 o bobl – mae’n wyrth na losgwyd unrhyw reis thra bod pum sosban ar y go ar unwaith!” – Phil McGrath

Hoffem ddiolch i chi gyd a brynodd docyn ac a wnaeth y noson yn un mor hwyliog, ac yn arbennig hefyd i GISDA unwaith eto am gael defnyddio’u hadnoddau.  Diolch yn fawr i bawb a ddarparodd matiau bwrdd ar gyfer y gorsafoedd gweithio ac i Rownd a Rownd am y props Siapaneaidd! Hoffai Phil estyn diolch ychwanegol i rai o’i gyd-aelodau o grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon – Ifan, Menna a Nici a’i helpodd i lwyfannu’r sioe.

Codwyd £260 at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2018 – swm parchus iawn!  Ein digwyddiad nesaf i ychwanegu mwy i’r pot yw’n Cystadleuaeth Cyri – nos Wener 8fed o Chwefror 2018, 7.30yh yn Feed my lambs.  Rhagor o wybodaeth yma.

Cofiwch ein dilyn ar Twitter @GwylFwydCfon a Facebook Gwyl Fwyd Caernarfon am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd