ION 09, 2018 - CATRINSIRIOL
GWEITHDY SUSHI – DEWCH AM NOSON DDIFYR ARALL YN CODI ARIAN I ŴYL FWYD CAERNARFON Nos Iau, 25 Ionawr, bydd aelod o Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon, Phil McGrath yn camu ‘mlaen i’ch dysgu chi sut i baratoi sushi! Mae ei ddiddordeb mewn sushi yn gwreiddio o’i gyfnod yng Nghaliffornia ryw ddeng mlynedd yn ôl ac mae o am sbarduno’r un diddordeb ynddo chi! Yn ôl Phil, ystyr y gair sushi yw ‘vinigared rice’, sy’n golygu na fydd unrhyw bysgod amrwd (sashimi yw hwnnw!) yn y gweithdy hwn a bydd yn addas i bawb. I’r rhai ohonoch sy’n hoff o fwyd môr, bydd corgimwch tempura ar gael, ond bydd digonedd o lysiau i’r rheiny ohonoch nad ydych mor hoff. Ar y noson, bydd Phil hefyd yn rhannu gwybodaeth a ffeithiau diddorol am sushi, ac yn rhoi cyflwyniad i chi ar yr hyn sydd ei angen arnoch i baratoi sushi a sut i fynd ati. Bydd hyn yn cynnwys sut i ddefnyddio mat bambŵ i rowlio’r sushi, sut i ddefnyddio papur ‘nori’ (gwymon), sut i dorri rôl sushi ac wrth gwrs, sut i’w fwyta wedyn! Bydd diod meddal ar gael i’w brynu ond gofynnwn i chi ddod a’ch alcohol efo chi os yn dymuno rywbeth cryfach! Cynhelir y noson yng Nghaffi Te a Cofi Gisda yng Nghaernarfon am 7:30yh. Cost tocyn yw £15 gyda’r holl elw yn mynd at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2018, ac maent ar gael o siop Palas Print, Caernarfon – 01286 674631. Rhybudd: Dim ond 30 tocyn sydd ar gael, felly brysiwch draw i Palas Print i osgoi colli ar noson llawn hwyl! Dilynwch ni ar Facebook (tudalen: Gŵyl Fwyd Caernarfon) neu Twitter (@GwylFwydCfon) Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd