GOHIRIO GŴYL FWYD CAERNARFON 2020

18/03/2020


Datganiad gan drefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon

Yn sgil sefyllfa bresennol gyda’r feirws Covid-19, ac er mwyn atal ymlediad, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi penderfynu peidio a chynnal gŵyl 2020. Mae hyn yn sicr yn siom i ni fel trefnwyr, ac yn siŵr o fod felly hefyd i’r stondinwyr, perfformwyr a’r miloedd sydd yn mynychu yn flynyddol. Ond ein blaenoriaeth ni yw iechyd a lles y cyhoedd, felly mae’n angenrheidiol i ni ddilyn canllawiau’r Llywodraeth i geisio atal lledaenu’r feirws.

Rydym mor ddiolchgar am bob cefnogaeth yr ydym wedi ei gael i’r ŵyl. Heb y gefnogaeth honno, byddai yn amhosibl cynnig gwyl rhad ac am ddim, sy’n cynnwys dros 120 o stondinau, cerddoriaeth fyw a gweithdai.

Rydym wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn i godi arian er mwyn gallu cynnal yr ŵyl a bydd yr arian hwnnw nawr yn cael ei gadw er mwyn gallu cynnig gŵyl werth chweil yn 2021.

Rydym yn cydymdeimlo yn fawr efo’r artistaid a’r busnesau hynny sydd am ddioddef colledion ariannol dros y cyfnod nesaf, a byddwn ni fel criw gwirfoddol yn siŵr o fod allan yn y gymuned yn cynnig cymorth ble bo angen.

Edrychwch ar ôl eich hunain a’ch gilydd.

  • Gwyl Fwyd Caernarfon 2019 Food Festival
  • Gwyl Fwyd Caernarfon 2019 Food Festival

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd