RHA 12, 2017 - SOPHIE
Ddydd Sadwrn, y 9fed o Ragfyr 2017, daeth grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon a naws Nadoligaidd Narnia-idd i Stryd y Plas drwy gynnal Ffair Nadolig yn Neuadd y Farchnad.
Cafwyd amrywiaeth o stondinau’n hybu cynnyrch artisan a chrefft lleol gwych, o fara artisan gwych Model Bakery, Ffestiniog a madarch hyfyrd Yr Ardd Fadarch, i anrhegion seramig unigryw Katy Mai a chrefftau Inc Pinc i’w cyflwyno ar ddydd Nadolig! Cawsom hyd yn oed cangen lleol Slimming World, Caernarfon yn dangos sut i reoli pwysau ychwanegol y Nadolig ym mis Ionawr heb orfod rhoi’r gorau i’ch hoff fwydydd! Bu’r grŵp hefyd yn brysur yn trefnu raffl ac yn gwerthu ffedogau a llyfrau ryseitiau. Bu’r Ffair yn fwrlwm drwy’r dydd ac erbyn 4 o’r gloch roedd gennym stondinwyr hapus, mynychwyr bodlon llawn bwyd a diod a £1060 tuag at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2018! Ar ben hynny, cafwyd adborth cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag adroddiadau i fusnesau lleol Stryd y Plas elwa o’r niferoedd a ddenwyd i’r Ffair. Diolch yn fawr i bawb ddaeth i werthu ac i brynu ac i’n helpu ar y dydd!
Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd