24 Ionawr 2025Be’ gewch chi well? Trip hwyliog i Ŵyl Fwyd yn Iwerddon, a chodi pres mawr i Ŵyl Fwyd Caernarfon yr un pryd. Anodd coelio? Wel, dyna’n union yr oedd Elfyn Thomas (Teithiau Elfyn Thomas) yn ei gynnig i drefnwyr yr Ŵyl Fwyd - trip i Ŵyl Fwyd Dun Garbhan, yn Swydd Waterford, Iwerddon, ar Ebrill 25 – Ebrill 27 2025, efo’r holl elw yn mynd i Ŵyl Fwyd Caernarfon. Yn union fel Caernarfon, mae Dun Garbhan yn dref glan môr hardd gyda sgwâr canolog, castell hanesyddol a phoblogaeth o tua 10,000. Mae’r ddwy ŵyl yn dathlu bwyd lleol a chynnyrch cynaliadwy, gan ddod â chymunedau a chynulleidfaoedd ehangach at ei gilydd i greu profiadau bythgofiadwy. Mae Gŵyl Fwyd Dun Garbhan, sydd bellach yn ei 16eg flwyddyn, yn un o’r gwyliau bwyd mwyaf llwyddiannus yn Iwerddon, gyda ffocws cryf ar arloesedd, cynaliadwyedd, a chysylltiadau cymunedol. Yn 2025, disgwylir i fwy na 75,000 o ymwelwyr heidio i Dun Garbhan dros dri diwrnod, gyda dros 80 o ddigwyddiadau unigryw, gan gynnwys marchnadoedd bwyd gyda 90 o stondinau, digwyddiadau rhyngweithiol, a gweithdai. Mae’r ŵyl yn cynnig rhywbeth arbennig i bawb, o deuluoedd i ffrindiau a rhai sy’n caru bwyd. Bydd y daith yn cychwyn o Gaernarfon bore Gwener, Ebrill 25, ac yn teithio ar fws moethus i ddal cwch 9:00 o Gaergybi i Ddulyn, ac wedyn rhyw deirawr o siwrne i gyrraedd Waterford ganol p’nawn. Byddwch yn aros mewn gwesty tair seren, efo pwll nofio, yng nghanol Waterford. Darperir swper yn y gwesty ar y nos Wener, ac mae cynlluniau ar y gweill i drefnu noson hwyliog a chymdeithasol i ddilyn. Ar y bore Sadwrn, byddwch yn teithio i dreulio’r diwrnod cyfan yn yr Ŵyl yn Dun Garbhan, (ryw 45 munud o siwrnai) ac yn dychwelyd i Waterford tua 11:00pm. Dydd Sul, bws yn ôl i Ddulyn, i ddal cwch 2:50pm, a chyrraedd nol yng Nghaernarfon rhyw 8:00pm. Pris y cyfan: £299 y pen, atodiad o £50 i bobl sengl. Cyfrifoldeb pob unigolyn ydi trefnu eu hyswiriant eu hun. Os hoffech chi archebu eich lle, cysylltwch efo Teithiau Elfyn Thomas: 01407 731080; info@elfynthomas.com neu www.elfynthomas.com;
Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd