Cystadleuaeth Goginio i Blant a Phobl Ifanc

08/10/2020



    	
			5 Mewn Pryd

5 Mewn Pryd

Wyt ti’n hoffi potsian yn y gegin a ffansi ennill offer coginio gwerth £100 a hamper gwerth £50 o gynnyrch o Gymru? Os felly, mae gennym ni'r sialens i ti neu i unrhyw gogydd ifanc brŵd ti’n nabod!

Mae dau gategori oedran sef Cynradd ac Uwchradd. Dyma gyflwyno cystadleuaeth 5 Mewn Pryd Gŵyl Fwyd Caernarfon a Hybu Cig Cymru!

Y sialens yn syml:

1. Coginio rysáit o dy ddewis di gan ddefnyddio Cig Oen neu Gig Eidion o Gymru.

2. Defnyddio hyd at 5 cynhwysyn arall yn y rysáit.

3. Wedyn, postia lun o'r plât gorffenedig a disgrifiad byr o’r rysáit ar dudalen Facebook Gŵyl Fwyd Caernarfon neu drwy ddilyn y ddolen yma gan nodi dy enw ac os mai oedran cynradd neu uwchradd wyt ti. Y dyddiad cau ydi Tachwedd 16 a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 23 o Dachwedd. I’r gad ac i’r gegin!

CO NI OFF 2019!

Y wobr yw gwerth dros £100 o'r offer coginio yma a hamper gwerth £50 o gynnyrch o Gymru!

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd