Cystadleuaeth Coctel Gin Nadoligaidd

3/12/20


Cystadleuaeth Coctel Gin Nadoligaidd

Fel rhan o’r digwyddiadau digidol sydd yn cael eu trefnu i lenwi’r bwlch a grewyd wrth ganslo gŵyl eleni, mae Gwyl Fwyd Caernarfon wedi cyhoeddi cystadleuaeth coctel gyda gwobr o 3 potel o jin o Gymru. Mae gofyn i gystadleuwyr greu coctel gan ddefnyddio jin a dim mwy na phum cynhwysyn arall a rhannu’r rysait gyda llun neu fideo.  
 
Beirniaid y gystadleuaeth ydi Lowri Wynn a Ffion Emyr, ill dwy yn ferched sydd wrth eu boddau efo jin ac yn gefnogwyr selog o’r ŵyl. Yn 2018 roedd ganddynt stondin  goctels eu hunain sef Jinsan, maent wedi cynnal noson blasu jin hynod lwyddiannus i godi arian i’r ŵyl ac wedi beirniadu y gystadleuaeth coctel Jinsan gyntaf ym mis Gorffennaf. 
 
Yr adeg hynny gyda’r tywydd braf, roedd modd i’r ddwy beirniad ddod at ei gilydd mewn gardd i brofi’r rhestr fer a dewis enillydd  - tra’n aros 2 fetr ar wahan wrth gwrs! “Melys Moes Mwyar” oedd y coctel buddugol ac enillwyd y wobr o 3 jin o Gymru gan Einir Owen o Garndolbenmaen.
 
Erbyn hyn mae hi’n stori wahanol, ac er i’r ŵyl drefnu gyda thafarn yn y dref i gynnal y broses beriniadu dan do ac yn ddiogel, mae amgylchiadau bellach yn golygu mai dros y we yn eu cartrefi eu hunain y bydd y ddwy yn gwneud y dewis holl-bwysig.
 
Y dyddiad cau  i gyflwyno eich coctel ydi Rhagfyr 13eg  a bydd y feriniadaeth yn fyw ar gfyrif Instagram Gwyl Fwyd Caernarfon ar nos Sul 20fed, gydag uchafbwyntiau y sesiwn blasu ar sianeli YouTube ac AM yr ŵyl erbyn y 23ain. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhywun dros 18 oed ac mae’r ffurflen gystadlu i’w gael wrth glicio fan hyn  https://forms.gle/p88c6yVkpddB6YHQ6
 
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ddiolchgar o fod yn derbyn cymorth gan Cywain er mwyn cynnal y gystadleuaeth hon yn ogystal â nifer o’r gweithgareddau eraill sydd wedi eu cynnal gan y pwyllgor o wirfoddolwyr, ac mae pawb yn gobeithio y daw 2021 ag amgylchiadau fydd yn galluogi i’r ŵyl gael ei chynnal yn ddiogel unwaith eto.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd