CYRI, CWRW A CHWMNI DA – BLOG

Mawrth 18, 2019 - MARGED


CO NI OFF 2019!

Wel sôn am noson ddifyr ym mhedwaredd gystadleuaeth cyri Gŵyl Fwyd Caernarfon, sydd wedi datblygu’n ddigwyddiad poblogaidd iawn. Syniad y noson ydi bod 10 o bobl leol sy’n hoffi coginio yn creu cyri i 80 o bobl, ac yna’r gynulleidfa ydi’r beirniaid ar y noson.

Yn amlwg, mae pawb yn hoffi blas cyri gwahanol, felly mae gweld ymateb pawb ar eich bwrdd i bob cyri yn ddifyr iawn, a’r sgôr yn amrywiol iawn hefyd. Bydd pawb yn marcio fel unigolyn, ac yna bydd pob bwrdd yn cyfuno eu marciau i roi sgôr terfynol gan y bwrdd.

Ar ôl i bawb ddod o hyd i sedd, cyflwynodd Rhys Tŷ Glyndŵr ni i ychydig o hanes jin ym Mhrydain a Chaernarfon. Wyddwn i ddim fod peint o jin yn arfer bod yn rhatach na pheint o gwrw!

Dyma rai o sylwadau’r noson: “cyri gogoneddus”, “gwyrdd a gwahanol”, “da at annwyd”, “10 cyri am £10 – bargen !!”

Mae ’na deimlad hollol hamddenol i’r noson, efo pwyllgor yr Ŵyl Fwyd yn gweithio’n galed iawn i fwydo’r holl fyrddau – gwaith gwych!

CO NI OFF 2019!

MC y noson oedd Geraint Lovgreen – a rhywsut, ges i’r swydd o “glamorous assistant” yn hel marciau fesul bwrdd. Dach chi wedi gweld system sgorio cystadleuaeth Eurovision? Wel, dyna sut oedd hi yn Feed My Lambs, efo gwahanol gyri yn dod i’r brig wrth i’r gwahanol fyrddau gyflwyno eu sgôr.

Wrth holi o amgylch yr ystafell, roedd dipyn o amrywiaeth barn, ac roedd cryn gynnwrf wrth glywed canlyniad y bwrdd ola!! Ond roedd yna enillydd clir, sef y Prifardd Rhys Iorwerth – a llongyfarchiadau enfawr iddo fo am ei Gig Eidion Rendang!

Katherine

 

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd