CYHOEDDI DIGWYDDIADAU GŴYL FWYD CAERNARFON

MED 15, 2018 - MARGED


CO NI OFF 2019!

Er mwyn cynnal yr ŵyl am ddim ym mis Mai, mae’r pwyllgor wedi trefnu amserlen o ddigwyddiadau bwyd a diod i godi hyd at £20,000.

Digwyddiad cyntaf yr ymdrechion godi arian yw’r Gystadleuaeth Pryd Powlen am 7.30pm, nos Wener, Hydref 19 yn Feed My Lambs.

I amrywio ar y cystadlaethau coginio hynod lwyddiannus, mae’r pwyllgor yn cyflwyno elfen newydd! Y gamp eleni yw coginio pryd i’w weini mewn powlen – dim cyfwydydd, dim ond pryd un powlen. Gall fod yn stiw, yn gawl swmpus, yn Goulash, yn gaserol – neu hyd yn oed yn gyri!

Y bwyatwyr ydi’r beirniaid a bydd yr enillydd yn ennill £50. Er mwyn cystadlu, cysylltwch drwy ebostio gwylfwydcaernarfon@gmail.com cyn Medi 30.

Tocynnau i’r gynulleidfa ar gael o Palas Print am £10.

Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiadau eraill yn ymddangos ar ein gwefan www.gwylfwydcaernarfon.cymru ac ar gyfrifon cymdeithasol yr ŵyl.

Os nad oes modd i chi gyfrannu at yr ŵyl wrth fynychu, mae’r ŵyl yn croesawu unrhyw gyfraniad yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/gwylfwydcaernarfon

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd