ION 29, 2018 - CATRINSIRIOL
Mae Cystadleuaeth Cyri Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd ar Nos Wener, Chwefror 9fed, gydag 8 cogydd amatur yn mynd benben i dderbyn gwobr o £50 a’r teitl ‘Cyri Gorau Caernarfon’. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad codi arian yn 2016 a 2017, mae trefnwyr yr ŵyl wedi gosod yr her unwaith eto. Bydd y gynulleidfa yn cael blasu 8 cyri gwahanol gan 8 cogydd dienw a’r gynulleidfa fydd yn marcio’r bwyd ac yn dewis yr enillydd. Rhys Edwards, dyn camera o’r Felinheli, sydd wedi dod i’r brig yn y ddwy gystadleuaeth ddiwethaf ond ni fydd yn cystadlu eleni. Dywed; “Mae’r noson yn gyfle gwych i bobl leol sy’n hoffi coginio adref arddangos eu hangerdd at goginio fel hyn. Dwi’n siŵr bydd pwy bynnag sy’n dod i’r brig eleni yn llwyr haeddiannol a dwi’n edrych ymlaen at flasu beth fydd ganddynt i’w gynnig yn y dyfodol!” Mae’r digwyddiad hwn yn un o sawl digwyddiad codi arian mae trefnwyr yr ŵyl yn ei gynnal er mwyn codi hyd at £25,000. Bydd yr arian yn mynd at allu cynnal yr ŵyl a chynnig mynediad rhad ac am ddim i bawb. Dywed Cadeirydd yr Ŵyl, Nici Beech; “Mae’n bwysig iawn i ni fel trefnwyr bod yr ŵyl am ddim fel bod pawb yn gallu mwynhau ac yn cael mynediad at fwydydd a diod sydd wedi eu cynhyrchu’n lleol. Mae trefnu’r digwyddiadau codi arian yma yn rhan fawr o waith y gwirfoddolwyr sydd ar ein pwyllgorau, ac mae’r digwyddiadau codi arian yn gymaint o ran o’r ŵyl ag ydy’r ŵyl ei hun. Cafodd dros £400 ei godi yn ein digwyddiad diwethaf ac mae pob cieiniog yn cyfri. Felly, os ydych chi eisiau i’r ŵyl allu parhau am ddim, prynwch docyn i un o’n digwyddiadau codi arian!” Mae tocynnau’r noson yn £15 ac ar gael o siop Palas Print. Bydd angen prynu tocynnau cyn dydd Llun, Chwefror 5ed er mwyn sicrhau bod digon o fwyd i bawb. Dewch a’ch diodydd eich hunain. DIWEDD Am luniau, cyfweliadau neu wybodaeth ebostiwch Marged Rhys ar marged_3@hotmail.com neu ffonio 07796691515 Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd