TACHWEDD 05, 2018 - SOPHIE
Mae’r dasg o godi arian at Gŵyl Fwyd Caernarfon 2019 wedi dechrau! Aethom ati unwaith eto eleni ar noson tân gwyllt i godi arian at ŵyl 2019 drwy werthu lluniaeth i wylwyr bywiog (ac oer!) yr arddangosfa tân gwyllt penigamp a drefnir yn flynyddol gan Y Llewod ochr draw i Bont yr Aber. Eto eleni, roeddem yn falch o allu cynnig danteithion i gynhesu’n yr oerfel ac i dynnu meddwl y rhai bach oddi ar eu cryndod.
Bu Ifan (eto!) yn brysur yn paratoi cŵn poeth, cawl a chandi fflos i’r rhai melys eu dant thra bu gweddill y grŵp yn eu gweini ac yn paratoi paneidiau a siocled poeth. Roeddem wrth ein boddau’n cael bod yn rhan o’r digwyddiad lyfli yma eto eleni – lle ddaw pawb ynghyd i fwynhau ac i gael eu syfrdanu gan yr arddangosfa. Ac yn fwy na hynny, mae’n wych gallu cymryd cyfle mor hyfryd i godi arian er mwyn ei roi’n ôl i’r gymuned drwy ein gŵyl nesaf. Codwyd £571 at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2019!
Diolch o galon i GISDA, O.G.Owen a’i Fab, Becws Carlton, Ffrwythau DJ, R&I, Gwasanaeth Bwyd Harlech, Tesco a Morrisons am noddi’r noson, ac i’r Llewod am fod yn fodlon rhannu’r noson efo ni unwaith eto. Ac wrth gwrs, diolch i bob un wan jac ohonoch a gyfrannodd i’r bwcedi neu a brynodd gennym! Ymlaen i’n digwyddiad nesaf rŵan – ein marchnad ‘dolig yn Copa, ar y Maes, dydd Sadwrn yr 8fed o Ragfyr, 10 tan 4! Cofiwch ddod draw i ddod o hyd i anrhegion unigryw gan wneuthurwyr lleol, ac i gael sgwrs efo Siôn Corn! Sophie x Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd