‘Cawl a Chân’ gydag Alys Williams ac Osian Williams

HYD 09, 2017 - SOPHIE


‘Cawl a Chân’ yng Nghlwb Hwylio Caernarfon oedd digwyddiad cyntaf Gŵyl Fwyd Caernarfon 2018.

Gyda chost o £25,000 i gynnal yr Ŵyl, mae digwyddiadau codi arian yn angenrheidiol i gefnogi’r trefniadau. Gan fod lleoliad yr Ŵyl yn datblygu i gynnwys ardal y Prom a Doc Fictoria yn 2018, roedd cynnal noson yn y Clwb Hwylio yn ddewis naturiol a diolch i Monica, Stiward y Clwb, am ei chroeso a chyd-weithio parod.

Gwerthwyd pob tocyn ac i’r gynulleidfa a gyrhaeddodd yn gynnar, cawsant fwynhau golygfa eiconig y machlud dros y Foryd.

Datblygiad arall ar gyfer 2018 fydd cydweithio gyda disgyblion Lefel ‘A’ Ffotograffiaeth Ysgol Syr Hugh Owen. Byddant yn cofnodi’r holl ddigwyddiadau a’r Ŵyl ei hun mewn lluniau a diolch i Bo a Mari ynghyd â’u camerâu am ymuno â ni ar y noson.

Ar gyfer y ‘cawl’ roedd Ifan, Gisda (a diolch iddynt am y gefnogaeth) wedi paratoi cawl cennin ar gyfer llysieuwyr yn ogystal â’r lobsgóws poblogaidd a gaiff ei weini’n ddyddiol yng nghaffi ‘Te a Cofi’ ar y Maes. Cafodd llawer ail fowlennaid ac ambell un drydedd. Diolch i noddwyr y lluniaeth sef Ffrwythau DJ, Porthmadog, Gwasanaeth Bwyd Harlech, O G Williams, Caernarfon a Bara Coulton, Caernarfon

Uchafbwynt y noson oedd perfformiad gan Alys Williams i gyfeiliant gitâr Osian Williams. Roedd maint y stafell yn gweddu i’r dim i set acwstig, agos-atoch a chafwyd ymateb ardderchog i ganeuon araf, myfyriol ac eraill oedd yn fwy egnïol a bywiog. Roedd mwynhad a gwerthfawrogiad y gynulleidfa’n amlwg a mynnwyd ‘encore’. Ar ddiwedd y noson cafwyd ymateb gan y ddau artist. Meddai Osian, “Digwyddiad hynod lwyddiannus yma yn Clwb Hwylio, Caernarfon; noson lyfli. Mae’r lle yn anhygoel i chwarae – ‘intimate’ iawn.” A dyma ddwedodd Alys, “Dwi di mwynhau heno’n fawr. Mae o’n lyfli cael cynulleidfa sy’n gwrando a mwynhau be da ni’n neud; da ni wir di mwynhau. Mae di bod yn noson mor hyfryd a diolch am y cyfle.” Digwyddiadau’r dyfodol: Tachwedd 4ydd: Pwyllgor yr Ŵyl Fwyd yn darparu lluniaeth ar y Prom yn noson Tân Gwyllt Caernarfon. Rhagfyr 9fed: Marchnad Dolig yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon Mai 12fed 2018: Gŵyl Fwyd Caernarfon

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd