Bwydo gwylwyr tân gwyllt Caernarfon

TACH 07, 2017 - SOPHIE


Nos Sadwrn, y 4ydd o Dachwedd 2017, bu’r grŵp yn brysur yn gwerthu lluniaeth i’r holl wylwyr brwd oedd wedi heidio i wylio’r arddangosfa tân gwyllt anhygoel a drefnir yn flynyddol gan Y Llewod ochr draw i Bont yr Aber.  Gyda’r gynulleidfa’n aros yn eiddgar yn yr oerfel yr ochr mewn i’r Fenai, roedd grŵp Gwyl Fwyd Caernarfon yn falch iawn o allu cynnig danteithion i’w cynhesu ac i gadw’r plantos yn ddifyr hyd ddechrau’r arddangosfa.

Bu Ifan wrthi’n brysur yn paratoi cŵn poeth a dau ddewis o gawl (diolch eto i GISDA am eu cefnogaeth parhaol) tra bu gweddill y grŵp yn helpu i baratoi, gweini a gwneud paneidiau a siocled poeth i gynhesu’r holl ddwylo a stumogau oer.

CO NI OFF 2019!

Wrth reswm, doedd y tân gwyllt ddim yn siomi eto eleni ac roedd hi’n braf iawn gweld y gymuned yn dod ynghyd i gyd-gyffroi a chyd-fwynhau.  Buom yn lwcus o gael rai o ddisgyblion celf Ysgol Syr Hugh Owen atom am y noson hefyd fel ffotograffwyr.

Ac i goroni’r cyfan, codwyd £700 at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2018!

Diolch yn fawr i bob un ohonoch ddaeth allan i gefnogi, ac a brynodd gŵn poeth, cwpannau cawl, paneidiau a chaniau diog ysgafn di-ri! Ond yn benodol, hoffem ddiolch yn fawr i’r rhai a restrir ar y dde am eu nawdd, eu cyfraniadau a’u gwasanaethau.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd