21/01/2020Gyda 210 shot o gin wedi eu tollti, 114 tamaid o leim wedi ei dorri, 60 potel o donic wedi eu hoeri a 70 coctel croeso wedi eu paratoi, roeddem yn barod ar gyfer noson yng nghwmni Lowri a Ffion o gwmni Jinsan yn blasu gin. Ac erbyn 8 o’r gloch roedd Clwb Canol Dre yn orlawn gyda chymysgedd o bobl, yn hŷn ac yn ifanc, yn barod am noson dda. Cychwynnodd y ddwy trwy rannu dipyn o hanes efo ni, o ddyddiau cynnar gin yn cael ei gymysgu mewn twbiau bath i darddiad y dywediad ‘mother’s ruin’. Cawsom flasu aeron juniper oedd gyda blas gin cryf ac yna hedyn coriander ar ei ôl, gan gael llond ceg o donic oedd yn egluro tarddiad y ddau. Ac wedyn mi oedd hi’n amser blasu a phrofi; a phawb yn cael tri gwydryn bach gyda gin gwahanol ynddyn nhw. Heb donic yn agos, roedd modd blasu y gin yn ei ffurf symlaf a chryfaf, gan werthfawrogi yr haenau gwahanol o flasau. Gwahaniaethu rhwng tonic rhad a thonic drud oedd y rownd nesaf, gyda thua hanner y criw yn dyfalu yn gywir. Tybed oes angen talu am donic drud ydy’r cwestiwn! Y rownd olaf oedd arbrofi gyda gwahanol ategion i roi yn y diod – oedd yn cynnwys chilis, leims, orenau, coriander a saij. Ac erbyn hyn roedd pawb yn gêm i roi cynnig ar unrhyw beth oedd Lowri a Ffion yn argymell. Mi lwyddodd Ffion a Lowri i gynnal noson ddiddorol, llawn hwyl gyda phopeth yn rhedeg fel watch a’r gin yn llifo’n braf. Diolch yn fawr i’r ddwy ac i’r cwmnïau canlynol am eu nawdd hael - Môn Distillery, Llechen Las (Dinorwig), Fron Goch, Riverside Distillery ac Aber Falls. O ganlyniad i gyfraniadau’r cwmnïau uchod a’ch cefnogaeth chi yn prynu tocynnau, llwyddwyd i godi dros £1,000 i’r Wyl Fwyd. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd