15.06.20Ifan Tudur, aelod o bwyllgor trefnu Gŵyl Fwyd Caernarfon sy'n sgwrsio efo'r cogydd Matt Guy dros Zoom yn y cyntaf o'n cyfres o ddigwyddiadau digidol. Mae Matt, un o'r cogyddion a oedd yn coginio yn ein gŵyl cyntaf, yn paratoi Cig Eidion Asiaidd, Koftas, Ragu a chig eidion 'BBQ glazed' gan ddefnyddio Cig Eidion Luing Cymreig, wrth drafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei yrfa, dyfodol y diwydiant arlwyo a'r profiad o gael babi ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod cloi! Diolch yn fawr i Matt am ei amser ac i Cig Eidion Luing Cymreig am ddarparu’r cig - mae nhw’n dosbarthu eu cynnyrch gwych ar draws y wlad, felly ewch draw i’w gwefan os hoffech chi archebu peth. Dyma ryseitiau Matt i chi lawrlwytho Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau. |
© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd