08.07.20Mae Lisa Jên, o’r band 9 Bach yn un sydd wrth ei bodd yn y gegin, ac wrth ei bodd yn ymweld â Groeg ar wyliau. Gan nad ydi hi, na neb ohonom ni yn medru mynd i Groeg yr haf yma, roedd hi’n meddwl y byddai pobl yn gwerthfawrogi gallu ail-greu rhai o glasuron bwyd Groeg yn y cartref. Gyda help ei theulu mae hi wedi paratoi gwledd ac mae hi wedi rhannu’r ryseitiau efo ni. Does dim mesuriadau yn y cynwhysion - coginio wrth ei greddf y bydd Lisa, ac mae hi’n ein hannog ni i wneud ur un fath, gan flasu ein ffordd drwy’r broses. Mae hi hefyd yn frwd dros gefnogi cynhyrchwyr lleol ac wedi gwneud Tzatziki gan ddefnyddio iogwrt Cosyn Cymru, tatws o Tyddyn Teg a finag o Perllanau Afallon Diolch yn fawr iddi am ddod â blasau hyfryd Groeg i’w chegin ger Bethesda, ac thrwy fideo i ni oll eu rhannu. Ευχαριστώ πολύ! Cliciwch yma i gael y ryseitiau Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd