CYDGOGINIO BYW AR IONAWR 30ain

30/01/21


CO NI OFF 2019!

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn falch o gyflwyno’r sesiwn ddiweddaraf  yn ein cyfres o ddigwyddiadau digidol sef cyfle i gydgoginio yn fyw ar nos Sadwrn Ionawr 30ain.  Nici Beech ydi cadeirydd yr ŵyl ac mae hi a’i phartner, Alun Cob, yn rhannu’r un diddordeb brwd mewn coginio. Nhw ill dau fydd yn arwain y coginio gyda Menna Thomas yn hwyluso’r sesiwn dros Zoom.

Mae cyfle i wylio ar sianeli AM a youtube yr ŵyl, gyda chyfle i wylio a rhyngweithio drwy wylio ar ein tudaeln Facebook. Bydd croeso arbennig i ddysgwyr Cymraeg.

Cliciwch yma i weld y cyfarwyddiadau a'r cynhwysion i gyd (PDF)

Ar y fwydlen mae pryd cyri figan yn cynnwys Wylys a Ffacbys gyda reis basmati,  a seigiau ochr o chapati, raita a bresych. Mae croeso mawr i chi ymuno a choginio’r holl bryd neu dim ond rhannau ohono ac mae’r cynhwysion wedi eu rhestru yn isod.

Paratowch ymlaen llaw wrth wneud toes y chapati a chasglu’r cynhwysion ynghyd yn barod.

Toes chapati

Cymysgwch y blawd gwenith cyflawn a plaen efo’i gilydd efo’r halen. Ychwanegwch yr olew ac wedyn digon o ddŵr poeth nes bod y toes yn dod at ei gilydd. Tylinwch am 8-10 munud ar fwrdd gweithio gyda blawd , neu mewn peiriant gymysgu gyda bachyn ar gyfer toes.
Rhowch y does i’w gadw mewn bowlen efo caead neu ei lapio mewn papur cwyr. Yn dibynnu ar pryd wnewch chi’r does, gallwch ei gadw yn yr oergell ond cofiwch ei dynnu allan rhyw awr cyn cychwyn y sesiwn coginio.

Bydd y sesiwn yn cychwyn am 6 o’r gloch gyda’r pryd yn barod i’w fwyta cyn 7 o’r gloch. Mae’r cynhwysion isod ar gyfer 2 berson ond mae croeso i chi ddyblu i wneud pryd i 4.

CO NI OFF 2019!

RHESTR SIOPA

CYRI     

Cynhwysion ffres
Garlleg (4 ewin)
Sinsir ffres (darn maint eich bawd)
Chilis coch (3)
Coriandr ffres
Nionyn (1)
Wylys mawr (1)
Iogwrt Cnau coco 100g    

O’r Storfa
Olew  
Siwgr
Piwrî tomato
Halen
Tun o ffacbys
Reis basmati    

Sbeisiau
Hadau Cardamom
Pupur du
Dail Llawryf
Ffon Sinamon
Hadau Cwmin
Hadau Coriandr
Garam Masala

RAITA    

Cynhwysion ffres
Iogwrt Cnau coco (200g)
Nionyn coch (1/2
Leim (1/2)
Ciwcymbr (1/2)
Coriandr / Mintys    

O’r Storfa
Hadau cwmin
Halen
Siwgr    

Sbeisiau
Hadau Cwmin

 

CO NI OFF 2019!

CHAPATI


O’r Storfa

Blawd plaen (75g)
Blawd cyflawn (75g)
Halen (1/2 llwy de)
Olew olewydd (1.5 llwy fwrdd)
Dŵr poeth (tua 90 ml)

BRESYCH

Cynhwysion ffres
Bresych gwyrdd
Chilli gwyrdd (1-2)
Coriandr

O’r Storfa
Olew
Halen    

Sbeisiau
Hadau mwstard du
Hadau cwmin
Hadau fenugreek
Dail cyri
Powdr Twrmeric

 

 

Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd