Yr Amgylchedd
Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod Gŵyl Fwyd Caernarfon yn amgylcheddol gyfeillgar. Mae llawer y gallwch chi ei wneud hefyd. Dyma rai syniadau:
- Teithiwch yma ar droed, ar feic neu ar fws! Mae rhagor o wybodaeth yma i'ch helpu i gynllunio eich taith.
- Dewch â gwydryn neu gwpan ail-ddefnyddiadwy yn eich bag.
- Dewch â photel ddŵr efo chi; bydd modd ei llewni mewn nifer o safleoedd o gwmpas y Dre.
- Cofiwch roi eich sbwriel yn y biniau cywir, neu'n well fyth, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi.
- Beth am ddod â bocs bwyd gyda chi er mwyn cario rhai o'r danteithion y byddwch yn ei prynu ar y diwrnod?
- Os ydych chi wedi mwynhau bwyd neu gynnyrch gan gwmni lleol ar ddiwrnod yr ŵyl, cofiwch brynu ganddynt eto! Mae prynu'n lleol yn well i'r amgylchedd, ac i'r economi leol.
- Llynedd, casglwyd 5.6 tunnell o wastraff ar ddiwrnod yr Ŵyl Fwyd. Llwyddwyd i ailgylchu 42% o'r gwastraff hwnnw! Beth am wneud hyd yn oed yn well eleni!?
Diolch am eich ymdrechion. Os oes gennych syniadau ar sut y gallwn fod yn fwy amgylcheddol-gyfeillgar fel gŵyl, byddem yn hapus iawn i gael sgwrs. Cysylltwch gyda ni: post@gwylfwydcaernarfon.cymru
Gŵyl 2025