Pethau i’w cofio

Pethau i’w Cofio


  • Cofiwch wrth baratoi ar gyfer dydd Sadwrn eich bod yn ymdrechu i deithio i’r Ŵyl mewn ffordd wyrdd. Os ydach chi’n byw yn y dre ac yn gallu, cerddwch draw, ac os ydach chi’n teithio o’r tu allan, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, cerddwch, neu feiciwch!
  • Beth am ddod â chadair wersylla efo chi?
  • Cofiwch ddod â digon o arian parod. Mae’n bosibl y gallair peiriannau twll yn y wal y dref redeg allan o arian ar ddiwrnod yr Ŵyl, ac mae’r ciws yn gallu bod yn hir.
  • Cofiwch baratoi yn unol â’r tywydd. Os bydd hi’n braf, dewch â digonedd o eli haul a dŵr.
  • Am y tro cyntaf erioed, mae ’na bwyntiau dŵr ar faes yr Ŵyl lle gallwch ail-lenwi eich poteli dŵr. Gwnewch siŵr eich bod yn yfed digon o ddŵr, yn enwedig os ydi’r tywydd yn boeth!
  • Am y tro cyntaf erioed, mae ’na bwyntiau gwybodaeth wedi eu lleoli ar draws y dre. Oes oes unrhyw beth yn codi ar ddiwrnod yr Ŵyl, os ydach chi angen map, neu os ydach chi angen cymorth o unrhyw fath, ewch draw!
  • Gwnewch siŵr fod pawb yn mwynhau’r diwrnod drwy yfed yn gyfrifol. Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ŵyl gymunedol a theuluol, ac mae’n bwysig fod pawb yn teimlo’n saff!
  • Os y buoch chi yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon 2024, cofiwch ddod â’r gwydryn ail-ddefnyddiadwy efo chi.
  • Cofiwch bod yr ŵyl yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr, a bod mynediad am ddim! Os hoffech chi weld hyn yn parhau, beth am ddod ac arian i roi mewn bwced at yr achos, neu wneud rhodd trwy PayPal wrth ddilyn y ddolen hon. Cofiwch ein bod bob amser yn chwilio am fwy o bobl i wirfoddoli! I gofrestru i wirfoddoli, dilynwch y ddolen hon.

Gŵyl 2025

© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd