29/11/2019
Y syniad ydy fod pobl yn rhoi un peth o’r neilltu bob dydd i rhywun llai ffodus, a mynd â nhw i’r banc bwyd lleol.
Yn ôl Lowri Jones o Fanc bwyd Afon,
Mae’r syniad yn syml: yn hytrach na’r calendr adfent arferol ble rydych yn agor ffenest ac yn cael siocled neu anrheg bach bob dydd, rydych yn rhoi un peth o’r cwpwrdd bwyd neu eitem i folchi mewn bocs a mynd a hwy i’ch banc bwyd lleol.
Ac mae wir angen cyfraniadau. Ym mis Hydref, dosbarthwyd 2.973kg o fwyd yn Arfon, gyda dim ond 2.411kg yn cael ei gasglu. Dros yr haf fe wnaethant amcangyfrif os byddai lefel y pobl oedd angen eu cymorth yn aros yr un peth trwy’r flwyddyn, y byddent yn gweld cynnydd o 27% yn y galw am fwyd yn lleol.
Ychwanegodd Lowri;
Mi ddylai’r Nadolig fod yn amser arbennig i bawb, ond mi ydym yn gwybod nad ydy hynny yn wir ac y bydd nifer yn wynebu argyfwng, yn cael trafferth bwydo eu hunain a’r teulu. Mis Rhagfyr yw ein mis prysuraf, pan ydym fel rheol yn gweld cynnydd o 40% o’i gymharu gyda’r misoedd blaenorol. Ar amser pan fo nifer yn wynebu caledi, mi ddylem ni sydd gyda mwy gofio ei bod yn well rhoi nac i dderbyn.
A ninnau naw mis i fewn i’r flwyddyn ariannol, rydym eisoes wedi darparu parseli bwyd i 1,864 o bobl, gyda 803 ohonynt yn blant. Gallwch gyfrannu bwyd mewn amryw o siopau yng Nghaernarfon. Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw beth y gallech roi, mawr neu fach. Gadewch i ni edrych ar ôl ein gilydd a rhoi i’r rhai sydd angen.
Yn ogystal a’r siopau, mi fydd posibl cyfrannu bwyd yn ystod Ffair Nadolig yr Ŵyl Fwyd (fydd yn cael ei chynnal yn hen siop Celtica, Caernarfon ar y 7fed o Rhagfyr) ac yn Galeri Caernarfon ar yr un diwrnod.
Yr eitemau sydd wir eu hangen ydy cig mewn tin, ffrwythau mewn tin, bagiau te, coffi, squash, llefrith uht a serials.
Yn ôl i'r tudalen newyddion.
|