TEITHIO’N WYRDD I’R ŴYL FWYD

MAI 08, 2017 - CATRINSIRIOL


Ar ddydd Sadwrn, Mai 13eg bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal ar faes Caernarfon gyda opsiynau i deithio’n gynaliadwy yno ar feic, bws a thren. Mae’r ŵyl, sydd am ddim i’r cyhoedd, yn dathlu cogyddion, gwneuthurwyr a gwerthwyr bwyd yr ardal. Bydd cyfle i fynychwyr deithio’n gynaliadwy gyda theithiau bws Express Motors yn rhedeg bysiau deulawr ar deithiau i Gaernarfon. Dywed llefarydd ar ran gwmni bysiau lleol Express Motors: “Oherwydd y galw mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus y llynedd, mae Express Motors yn bwriadu rhedeg bysiau deulawr i Gaernarfon ar ddiwrnod yr Ŵyl Fwyd eleni i gario hyd yn oed mwy o ymwelwyr.” Mae bysiau Arriva hefyd yn cyrchu ymwelwyr i Fangor. Dywed llefarydd ar ran gwmni bysiau Arriva: “Mae gwasanaethau Arriva yn rhedeg bob chwarter awr o Fangor i Gaernarfon ac rydym yn edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr ar wasanaeth 5C ar Fai 13eg.” Bydd Rheilffordd Eryri hefyd yn rhedeg tren ychwanegol ar fore’r 13eg i gyrchu mynychwyr i’r ŵyl. Dywed Clare Britton, Rheolwr Masnachol o Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri; “Rydym yn edrych ymlaen at redeg trên ychwanegol o Borthmadog i Gaernarfon ar ddiwrnod yr ŵyl ei hun ar Fai 13eg, sy’n siŵr o fod yn ddiwrnod penigamp. Rydym yn falch iawn o allu helpu Gŵyl Fwyd Caernarfon ac i ddangos ein cefnogaeth i fudiad cymunedol lleol.” Bydd llwybrau beic Lôn Eifion a Lôn Menai, sy’n arwain mewn i Gaernarfon o’r De a’r Gogledd hefyd yn opsiwn gwych i’r rheiny sydd eisiau llosgi’r caloriau wedi diwrnod o lenwi bol.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd