TACH 05, 2015 - MEI
Cyfranodd cigyddion, pobyddion a chyflenwyr bwyd lleol selsig a rholia bara er mwyn ein cefnogi wrth godi arian i’r wyl ar gyfer ein digwyddiad codi arian cyntaf. O Fenter Fachwen, mi wnaethon ni logi Cegi Cofi, a galw ar garej leol i’w dynnu i rhodfa’r môr ar ei newydd wedd. Gwisgodd y pwyllgor eu ffedogau, torchi llewys a bwydo canoedd o deuluoedd oer Caernarfon yn yr arddangosfa wych sy’n cael ei threfnu’n flynyddol gan Llewod Caernarfon. Diolch i bawb a gefnogodd, fe godon ni £432 mewn un noson.
Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd