01.12.2021Cafwyd penwythnos hynod llwyddiannus ar ddiwedd Tachwedd pan gynhaliwyd Marchnad Nadolig ar y cyd gyda Galeri a Rheilffordd Eryri gyda stondinau o bob math yng Nghei Llechi ac yn y Stesion, gweithgareddau celf a pherfformiadau gan Cimera a band Llanrug yn ogystal â chyfle i’r plant gael sgwrsio efo Sion Corn yn fyw o Begwn y Gogledd. Codwyd dros £400 tuag at yr ŵyl gyda rhoddion gan y cyhoedd a raffl gyda gwobrau gan fusensau lleol. Er ei fod yn amhosib darogan beth fydd y sefyllfa ym mis Mai, mae’r trefnwyr yn dilyn esiampl nifer o wyliau eraill ac yn paratoi at ŵyl awyr agored ar ddydd Sadwrn Mai 14eg 2022. Er mwyn cofrestru am stondin, ewch i’r dudalen Stondinwyr.
Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd