CHW 10, 2018 - SOPHIE
Nos Wener, cafwyd noson llawn sbeis ac amrywiol flasau wrth i’r Cofis fynd benben am deitl Cyri Gorau Caernarfon 2018 am y trydydd tro. Ar y 9fed o Chwefror, daeth 10 cystadleuydd a’u cyris draw i ‘Feed My Lambs’ lle byddent yn cael eu gweini i’w cyd-Gofis llwglyd gan weinyddion grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gosodwyd naw bwrdd i 8 yn y neuadd lawn; pob bwrdd yn llawn gwin a chwrw a phawb yn awyddus i sgorio a blasu’r cyris.
Wrth i’r cystadleuwyr gyrraedd draw â’u cyris, rhoddwyd rhif o 1 i 10 ar bob un, gan gadw enwau’r cogyddion yn gudd. Buodd Ifan wrthi’n brysur yn y gegin (eto!) yn coginio reis perffaith ac yn sicrhau bod y cyris i gyd yn cyrraedd tymheredd diogel i’w bwyta, tra bod Ann wrthi’n brysur yn sicrhau bod y lle’n lân a’n bod yn cadw at ein safonau ailgylchu uchel! Bu’r grŵp yn gosod y cyris ar y byrddau mewn tair rownd, pedwar cyri i ddechrau, ac yna dwy rownd o dri – â reis basmati a bara chapati i gyd-fynd. Roedd y safon yn uchel iawn eto eleni, gyda’r amrywiaeth gorau a gafwyd erioed ymysg y cyris; yn cynnwys porc, cyw iâr, cig eidion, cig oen, corgimwch a thri opsiwn llysieuol! “Dyma’r tro cyntaf i fi fynychu’r digwyddiad ac mi wnes i wirioneddol fwynhau – y bwyd yn flasus tu hwnt a’r awyrgylch yn gymdeithasol a chroesawgar. Roedd hoel gwaith y tîm wrth baratoi a chynnal y noson yn amlwg a dwi’n edrych ‘mlaen at y nesa’!” – Einir Beuno
Beirniaid y gystadleuaeth oedd y gwesteion (wrth reswm!); rhoddwyd marc allan o 10 i bob cyri, ac ar y diwedd gofynnwyd i bob bwrdd gyfrifo’u cyfartaledd fesul cyri. Cyfunwyd y cyfartaleddau i ddarganfod sgôr cyfanswm bob cyri, cyn i Marged ein cyflwynwraig gyhoeddi’r canlyniadau. Yn drydedd, daeth Jayne Marshall gyda’i Rendang Cig Eidion; yn ail oedd Hywel Iorwerth a’i Vindaloo Porc; ac yn fuddugol fel cogydd cyri gorau Caernarfon eleni oedd Mike Downey gyda’i Gyri Coch Cymreig! Llongyfarchiadau mawr i’r tri ohonynt!
“Dwi wedi profi llawer o gyris ar fy nheithiau ar hyd yr A470 o Gaerdydd i’r Gogledd yn dilyn gemau rygbi, a’m gobaith oedd i geisio cyfuno fy hoff rai i gyd mewn un i wneud y Cyri Coch Cymreig! Dwi’n mynd adre’ yn hapus iawn heno!” – Mike Downey Cafwyd noson llawn hwyl gyda phawb yn gadael â llond eu boliau ac yn llawn canmoliaeth. Roedd yn gyfle gwych i bobl na fyddai o reidrwydd yn cyd-eistedd a chyd-fwyta fel arfer i wneud hynny, gyda’r cyris yn destun sgwrs hawdd! I goroni’r cyfan, llwyddwyd i godi £780 arall tuag at goffrau Gŵyl Fwyd Caernarfon 2018 – noson lwyddiannus iawn ymhob agwedd! Hoffem estyn diolch arbennig i – Feed my Lambs am y cyfleusterau gwych; Penningtons am y tuniau bwyd a’r gwydrau plastig; Morrissons am gyfrannu’r reis a’r bara; Galeri am gael menthyg eu hoffer goleuo; Geraint Lovgreen am y system sain a’r gerddoriaeth a Marged Rhys am gyflwyno’r noson!
“Roedd o’n bleser bod yn rhan o’r noson a chael blasu’r 10 cyri – pob un yn hyfryd! Mae’r safon yn codi bob blwyddyn ac mae’n braf gweld wynebau newydd yn cystadlu a’n mynychu.” – Marged Rhys Ond yn bennaf oll, hoffem diolch i’r holl gystadleuwyr am gyfrannu eu hamser a’u cyris, i chi fynychwyr am ddod i gefnogi a mwynhau, ac i Ifan a’r tîm am sicrhau llwyddiant y noson! Ein digwyddiadau nesaf i gynyddu’r coffrau yw’n Cinio Gala ar 8fed o Fawrth yng ngofal Hywel Griffiths a Choleg Menai a’n noson Cawl a Chân yng nghwmni Gwilym Bowen Rhys ac Iestyn Tyne ar yr 17eg o Fawrth (ar ôl gêm rygbi chwe gwlad Cymru v Ffrainc!). Tocynnau ar gael yn Palas Print Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd