TACH 01, 2015 - NICIBEECH
Lawnsiwyd Gŵyl Fwyd Caernarfon yng nghaffi Te a Cofi Gisda ar y Maes. Daeth torf i’r caffi i flasu bwyd lleol, mwynhau cerddoriaeth fyw ac i groesawu’r newyddion y bydd Caernarfon yn cynnal ei gŵyl fwyd cyntaf ymhen blwyddyn Dadorchuddiwyd logo unigryw’r ŵyl am y tro cyntaf ddydd Sadwrn yn dilyn cystadleuaeth rhwng rhai o ddigyblion blwyddyn 10, adran Gelf Ysgol Syr Hugh Owen. Fe ysbrydolwyd y dylunydd graffeg lleol Iestyn Lloyd o Gwmni Da gan waith dri myfyriwr i greu logo trawiadol sy’n cyfeirio at atyniad mwyaf enwog y dref – castell Caernarfon. Gellir gweld y logo ar fatiau diod â ddosbarthiwyd i sefydliadau bwyd a diod o gwmpas y dref. Roedd nifer o gaffis a bwytai Caernarfon wedi rhoi blas o’u bwyd yn y lansiad. Mae gan y dre gyfoeth o fwytai a chaffis o safon, a’r rhain fydd canolbwynt yr Wyl, ynghyd â chynhyrchwyr bwyd eraill o Wynedd a thu hwnt. Meddai Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad Cymru dros Arfon ar ddydd Sadwrn: “Bydd yr Ŵyl Fwyd yn dod â channoedd o bobl i Gaernarfon, a fydd yn rhoi hwb go iawn i’r economi leol. Rwy’n falch iawn bod cymaint o fusnesau wedi cefnogi’r lansiad ac yr wyf yn wirioneddol ddiolchgar iddynt. ” Croesawyd y gwesteion gan y Maer, Roy Owen a chadeirydd y pwyllgor Nici Beech a pherfformiodd y band gwerin poblogaidd Gwibdaith Hen Frân yn dilyn eu perfformiad llwyddiannus y noson flaenorol yng ngŵyl Cwrw ar y Cledrau. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd