HANES Y NOSON GIN - BLOG

CHWEFROR 01, 2019 - MARGED


Am y tro cyntaf erioed yn hanes Gŵyl Fwyd Caernarfon, cynhaliwyd ein digwyddiad blasu jin cyntaf ar noson Santes Dwynwen eleni.

 

Braf oedd gweld Tŷ Glyndŵr dan ei sang, a’r tocynnau i gyd wedi’u gwerthu ers wythnosau. Pawb yn awchu i ddathlu dydd y cariadon mewn steil, a chyfrannu at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2019 ar yr un pryd.

I godi blys, cafodd pob gwestai goctêl jin pinc efo lemonêd a surop llys wrth gyrraedd. Roedd hwn wedi ei weini gyda mafon a sleisen o lemwn.

Ar ôl i bawb ddod o hyd i sedd, cyflwynodd Rhys Tŷ Glyndŵr ni i ychydig o hanes jin ym Mhrydain a Chaernarfon. Wyddwn i ddim fod peint o jin yn arfer bod yn rhatach na pheint o gwrw!

CO NI OFF 2019!

Cawsom gyfle i flasu pump jin gwahanol a choctel yn ystod y noson, a Rhys yn dangos inni sut oedd mynd ati i’w creu a’i gweini. Dyma nhw:

1. Jin Aber Falls blas marmalêd. Mae’r jin yma yn cael ei ddistyllu’n lleol yn Abergwyngregyn, ac yn blasu ar ei orau wedi’i gymysgu gydag Indian Tonic, croen lemwn wedi dorri’n fan, a sbrigyn o fintys, dros rew.

2. Jin Aber Falls arall y tro hwn – blas riwbob a sinsir. Aeth Rhys ati i weini hwn gyda chwrw sinsir a sleisen o leim – a chofiwch rwbio’r leim y tu mewn i’r gwydr – cyn ychwanegu pupur du o’r felin bupur.

3. Jin lleol arall nesaf, sef Llechen Las. Mae Distyllfa Llechen Las yn nythu o dan chwareli llechi Dinorwig, yng nghesail y Wyddfa. Mae’r jin yma’n cael ei wneud gyda phlanhigion sy’n tyfu ar lethrau Eryri, ac felly mae iddo flas unigryw a gwahanol i jins eraill, sy’n ychwanegu ffrwythau sitrws wrth ddistyllu. Oherwydd hyn, roedd gweini hwn yn broses syml – gyda thonic a lemon a rhew, i gael mwynhau’r blas naturiol, lleol. Mi fydd gan Llechen Las stondin yn yr Ŵyl Fwyd eleni – mynnwch botel!

4. Jin Brockmans oedd nesaf. Mae’r jin yma o Loegr yn cael ei gyflwyno i ffrwythau sitrws wrth aeddfedu. Felly sticiodd Rhys at y thema hon gan gymysgu’r jin efo oren, sinamon a thonic canoldirol.

5. Llanfair PGin – dyna ichi enw da! Jin lleol arall, ac mi fydd gan y rhain stondin yn yr Ŵyl Fwyd eleni hefyd, gyda llaw. Mae’r ddistyllfa ym mhentref enwog Llanfairpwllgwyngylll….gogogoch! Newydd ddechrau ar ei daith ddistyllio jin y mae’r cwmni bach lleol yma, gan ddefnyddio botaniaid sy’n tyfu ar Ynys Môn. Gyda’r jin yma, cawsom donic ysgawen, mafon a sleisen o leim.

6. Yn olaf, yn goron ar bob dim, gweinwyd coctel i ni gan Sion. Mae Sion wedi gweithio mewn bariau coctel yn LA, felly roedd yna gryn edrych ymlaen! Cafwyd coctel gyda jin Hendricks, mefus a phetalau rhosod wedi’u malu (rhamantus iawn!), a hwnnw wedi’i weini gyda sudd lemwn a thonic. Dyna ichi sut i orffen y noson mewn steil.

Bu criw o drefnwyr yr Ŵyl hefyd yn brysur yn trefnu raffl, a diolch yn fawr iawn i Ddistyllfa Llechen Las a Llanfair PGin am gyfrannu potel yr un ar gyfer y gwobrau. Llongyfarchiadau i Carys am ennill y wobr gyntaf (Gin Llechen Las) ac i Ann Hopcyn am ennill yr ail wobr (Llanfair PGin). Iechyd da!

Codwyd £623 at yr Ŵyl, ac mae ein diolch yn fawr i bawb a brynodd docynnau, ac i’r gwirfoddolwyr am helpu!

Ein digwyddiad codi arian nesa fydd y Noson Gyri fydd yn cael ei chynnal ar 22 Chwefror yn Feed My Lambs, Caernarfon. Tocynnau ar gael am £10 o Palas Print. Dewch â phowlen, llwy a’ch diod eich hun.

CO NI OFF 2019!

 

 

Siwan

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd