Gŵyl Fwyd eisiau cefnogi busnesau’r dref

27/06/2019


CO NI OFF 2019!

Gŵyl Fwyd eisiau cefnogi busnesau’r dref

Wrth i griw Gŵyl Fwyd Caernarfon baratoi am ŵyl 2020 cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal nos Fercher, 26ain o Fehefin er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd fynegi eu barn a denu pobl i fod yn rhan o’r tîm o drefnwyr gwirfoddol.

Yn dilyn ymatebion drwy holiaduron ar y wefan newydd ac ar y dydd a ddangosodd adborth gadarnhaol iawn i ŵyl 2019, a ddenodd y gynulleidfa fwyaf eto, mae’r trefnwyr am gymryd y cyfle i gael mwy o bobl yn rhan o’r ŵyl. Roedd nifer fawr o’r tua 300 o ymatebion yn mwynhau gymaint fel roeddent gofyn am fwy! Dywed Nici Beech, cadeirydd y pwyllgor trefnu:

“Rydym yn falch iawn fod pobl wedi mwynhau gymaint nes eu bod yn galw am fwy o ŵyl - pethau fel i'r gerddoriaeth barhau tan hwyrach neu hyd yn oed gŵyl dros ddeuddydd. Gwych ydy gweld bod yr ŵyl wedi cael gymaint o argraff a gadael ei marc. Un o’n prif werthoedd ni fel gŵyl yw cefnogi’r diwydiant bwyd a diod yn lleol. Rhan o hynny yw cefnogi cynhyrchwyr sy’n dod â stondin i’r ŵyl, ond rhan arall o hynny hefyd yw busnesau tref Caernarfon. Rydym yn fwriadol, felly, yn dod â’r ŵyl i ben am 5.00 fel bod modd i'r cyhoedd barhau i fwynhau ym mwytai a thafarndai’r dref ac i leoliadau adloniant eraill gynnal yr arlwy gerddorol ymlaen gyda’r hwyr.  

Byddem hefyd yn croesawu unrhyw fusnes i roi stondin o flaen eu heiddo - dim ond eu bod yn sicrhau unrhyw ganiatâd yn uniongyrchol gan y cyngor. Eleni roedd hi’n braf gweld bod y rhai oedd wedi gwneud hyn wedi elwa o hynny, un ai drwy gynnig rhywbeth gwahanol ar thema bwyd a diod neu dim ond wrth fod yn weladwy ac yn barod i siarad efo ymwelwyr yr ŵyl am eu busnesau.”

Mae dros 20 o bobl yn trefnu’r ŵyl, yn hollol wirfoddol yn eu hamser eu hunain, mewn 5 grŵp gwahanol – Cynnwys, Nawdd, Technegol, Cyfathrebu a Gwirfoddoli, a’r trefnu yn dechrau dros 10 mis cyn yr ŵyl. Mae’n costio £32,000 i gynnal yr ŵyl gyda mwyafrif (59%) o’r arian yn dod drwy grantiau a nawdd nad oes modd dibynnu arno o flwyddyn i flwyddyn. Er mwyn cadw’r ŵyl yn ddiwrnod cwbl am ddim ac agored i bawb, mae’r grŵp Cynnwys yn mynd ati i gynnal cyfres o ddigwyddiadau codi arian yn ystod y flwyddyn. Bydd ffefrynnau fel y Noson Gala a’r Gystadleuaeth Cyri yn ymddangos eto yn ystod 2019-20 yn ogystal â digwyddiadau newydd mewn cydweithrediad â busnesau’r dref. 

Dywed Menna Thomas, cadeirydd y Grŵp Cynnwys;

“Rydym yn edrych ymlaen at gynnal blwyddyn arall o ddigwyddiadau codi arian gyda’r cyntaf yn digwydd ym mis Medi - i'w gyhoeddi’n fuan ar ein gwefan newydd www.gwylfwydcaernarfon.cymru . Mae croeso i bawb ddod i'n digwyddiadau, sydd ar themâu bwyd a diod, ond mae croeso i chi hefyd fynd ati eich hunain i drefnu gweithgareddau codi arian - ‘Come Dine With Me’ rhwng ffrindiau neu bicnic tedis i'r plant - a byddwn yn hapus i'w hyrwyddo.” 

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon 2020 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, Mai 9fed ar hyd canol tref Caernarfon. 

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd