GŴYL FWYD CAERNARFON YN EHANGU YN 2018

MED 13, 2017 - CATRINSIRIOL


Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal am y drydedd tro ar Fai 12fed, 2018 ar leoliadau newydd yng Nghaernarfon. Mae gwaith ar ddatblygu ardal Cei Llechi a Lon Santes Helen yn 2018 yn golygu na fydd yr ardal hon ar gael i’r Ŵyl Fwyd yn 2018. O’r herwydd, bydd yr ŵyl wedi ei gwasgaru dros sawl ardal arall o’r dre yn cynnwys Pendeitsh, y Prom, Porth yr Aur a’r Doc Fictoria yn ogystal â’r Maes a Stryd Llyn. Mae’r ŵyl yn dathlu bwyd a diod arbennig a wnaed yn lleol gyda chyfle i brynu a blasu cynnyrch o fri a phrofi talentau rhai o gogyddion enwog o Gymru. Croesawodd yr ŵyl oddeutu 15,000 o ymwelwyr y llynedd, 5,000 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. Gyda’r ŵyl yn ehangu ffiniau yn 2018 mae’r trefnwyr yn gobeithio denu 20,000 o ymwelwyr i dre’r Cofis. Dywed Nici Beech, Cadeirydd Gŵyl Fwyd Caernarfon; “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Fai 12fed, 2018. Ac er nad yw’r Cei Llechi ar gael ar ein cyfer yn 2018, rydym wedi sylweddoli’r potensial i rannau eraill o Gaernarfon er mwyn cynnal yr ŵyl. Rydym yn gyffrous wrth fynd ati i drefnu a’n edrych ymlaen yn fawr i groesawu ymwelwyr i fannau eraill Caernarfon i flasu bwyd a diod arbennig yr ardal.” Mae gallu cynnig mynediad am ddim i Ŵyl Fwyd Caernarfon yn bwysig iawn i’r trefnwyr fel y gall bawb yn y gymdeithas fwynhau’r bwyd a diod lleol. Gyda’r ŵyl yn costio dros £25,000 i’w chynnal, mae’r trefnwyr yn brysur yn chwilio am nawdd a chodi arian gan drefnu cyfres o ddigwyddiadau codi arian dros y misoedd i ddod.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd