HYD 31, 2017 - CATRINSIRIOL
Bydd gwirfoddolwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon yn gwerthu bwyd poeth a diodydd ar y Promenâd yng Nghaernarfon yn ystod Arddangosfa Tân Gwyllt y dref ar Dachwedd 4ydd, 2017 rhwng 18:00 a 20:00. Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae trefnwyr y noson, Llewod Caernarfon, wedi gwahodd criw’r Ŵyl Fwyd i ddychwelyd i werthu cwn poeth, dau fath o gawl a diodydd poeth ag oer i wylwyr yr arddangosfa wrth ymyl y Clwb Hwylio. Mae’r bwydydd a’r diodydd wedi ei darparu gan siopau a chigyddion lleol fel bod yr holl elw yn mynd tuag at gynnal yr Ŵyl Fwyd ar Fai 12fed, 2018. Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi creu calendr gyffrous o ddigwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i’r cyhoedd gyfrannu arian tuag at yr ŵyl wrth fwynhau ar yr un pryd. Bydd y digwyddiadau yn cynnwys; Cystadleuaeth Gyri, Trip Trên, Cinio Gala a’r Farchnad Nadolig Gŵyl Fwyd Caernarfon sy’n cael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar 9 Rhagfyr 2017. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd