Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal Ffair Nadolig y dref

TACH 29, 2017 - CATRINSIRIOL


Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal Ffair Nadolig yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ddydd Sadwrn, Rhagfyr 9fed, 2017 rhwng 10:00 a 16:00.

Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi mynd ati eto i drefnu gwahodd stondinwyr bwydydd artisan a chreft i’r adeilad eiconig ar Stryd y Plas, Caernarfon er mwyn arddangos talent gwneuthurwyr lleol.

Mae stondinwyr y dydd yn cynnwys gwerthwyr caws dafad, melysion, bara artisan, madarch, gwinoedd, cardiau, crefftau a llawer mwy. Bydd Tŷ Siocled hefyd yn cynnal gweithgareddau siocled i’r rheiny sydd â bysedd prysur a dant melys.

Bydd gwirfoddolwyr o’r Ŵyl Fwyd hefyd yn rhedeg rhaffl ac yn gwerthu ffedogau gwyn sydd â logo eiconig yr Ŵyl Fwyd a llyfr coginio’r Ŵyl sy’n cynnwys ryseitiau gan gogyddion lleol.

Bydd holl elw’r raffl, llyfrau coginio a’r ffedogau yn mynd tuag at gynnal yr Ŵyl Fwyd am y trydydd tro ar Fai 12fed, 2018 – anrheg nadolig perffaith i’r cogydd yn y teulu!

Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi creu calendr cyffrous o ddigwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i’r cyhoedd gyfrannu arian tuag at yr ŵyl wrth fwynhau ar yr un pryd.

Bydd y digwyddiadau yn cynnwys; Cystadleuaeth Gyri, Noson Sushi, Trip Trên a Chinio Gala fawreddog.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd