RHA 30, 2016 - CATRINSIRIOL
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn agor ceisiadau ar gyfer cynnal stondin yn yr ŵyl a fydd yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caernarfon ar Fai 13eg, 2017. Daeth oddeutu 10,000 o ymwelwyr i’r dref yn ystod yr ŵyl yn 2016 ar gyfer yr ŵyl fwyd gyntaf yng Nghaernarfon gyda nifer o’r stondinwyr yn gwerthu eu holl gynnyrch. Bydd Caernarfon yn baradwys i fwyd-garwyr yn ystod yr ŵyl, efo arddangosiadau coginio byw, bwyd wedi’i goginio’n ffres, gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu i gyd yn ogystal â nifer o stondinau a fydd yn cynnig bwyd a diod i’w blasu a’u prynu. Dywedodd Sharon Jones o Moch Llŷn am ŵyl 2016; “Diolch yn fawr am gael bod yn rhan o’r ŵyl lwyddiannus, roedd popeth wedi cael ei drefnu yn wych. Roedd hi’n neis gweld gymaint o bobol yn cefnogi’r diwrnod. Byswn wrth fy modd bod yn rhan o’r ail ŵyl flwyddyn nesaf.” Un o brif amcanion yr ŵyl yw adlewyrchu cymeriad a diwylliant Caernarfon a dathlu bwyd lleol drwy wahodd cynhyrchwyr, cwmnïau arlwyo a bwytai lleol i arddangos eu bwydydd a diodydd blasus. Yn ychwanegol i’r ŵyl eleni bydd cornel grefft ble gall grefftwyr lleol arddangos a gwerthu eu gwaith. Rydym yn falch iawn o allu bod yn ŵyl agored i bawb o bob oed gyda mynediad am ddim, yn wahanol i nifer o wyliau bwyd eraill. Er mwyn ein galluogi i gynnal gŵyl am ddim, mae’r pwyllgor wedi bod yn brysur iawn yn meddwl am bob mathau o wahanol ffyrdd i godi arian gyda llawer o ddigwyddiadau codi arian wedi’u trefnu yn 2017. Cynhaliwyd Gŵyl Fwyd Fach Caernarfon fel rhan o ddathliadau Nadolig Stryd y Plas yn Neuadd y Farchnad ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 10fed. Gyda stondinwyr crefft a chynnyrch bwyd a chriw Gŵyl Fwyd Caernarfon yn gwerthu llyfrau ryseitiau Coginio efo’r Cofis, roedd y digwyddiad yn llwyddiannus gan godi dros £700 at ŵyl 2017. Noson Blasu Gwin yw’r digwyddiad codi arian nesaf fydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Santes Dwynwen, Ionawr 25ain, yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 31ain, 2017. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd