Mawrth 29, 2019 - SOPHIE
Unwaith eto eleni cafwyd noson gwerth chweil yn ein noson Gala. Gyda’r tywydd ar ein hochor eleni, bu’r noson yn lwyddiant wrth i’r tocynnau i gyd werthu! Ein cogyddes gwâdd oedd y cyn-ddisgybl o Goleg Menai sydd bellach yn brif gogyddes yn y Seacroft yn Mae Trearddur, Ffion Roberts. Bu Ffion i fewn yn gweithio gyda’r myfyrwyr o’r coleg yn paratoi y bwyd yn ystod y dydd ac yn rhoi arweiniad iddynt ar y dulliau o arddangos bwyd ar gyfer y gwasanaeth gyda’r nos. Cawsom hefyd gwis mawreddog gan Trystan, fel arfer, a llongyfarchiadau i fwrdd o aelodau Côr Cofnod am ddod i’r brig! Bu cyfraniadau hael o 2 fws gan Teithiau Elfyn Thomas i sicrhau cludiant diogel i’r coleg ac yn ôl i’r mynychwyr. A bu’r elw a wnaethpwyd gan werthu diodydd o Iechyd Da i gyd yn cyfrannu at lwyddiant y noson. Gwnaethpwyd dros £1000 o elw – a hyn i gyd yn gyfraniad tuag at ei gwneud yn bosib i ni gynnal yr ŵyl heb gost mynediad. Diolch yn fawr felly iddyn nhw, i Ffion, ac i Goleg Menai am wneud y noson yn bosib unwaith eto. A diolch wrth gwrs i chi gefnogwyr ffyddlon am ddod! YMLAEN I’R ŴYL!! Ifan Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd