DYDDIAD NEWYDD Cinio Gala – 17 Ebrill 2018

MAW 31, 2018 - SOPHIE


Bydd y rhai ohonoch oedd wedi prynu tocyn i’n Gala Fwyd yng Ngholeg Menai ym mis Mawrth, a’r rhai ohonoch oedd yn methu a gwneud y dyddiad hwnnw, yn falch o glywed ein bod wedi llwyddo i ail-drefnu. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi dyddiad newydd, sef nos Fawrth yr 17eg o Ebrill 2018. 

Fel rhan o’r noson bydd myfyrwyr arwylo Coleg Menai yn paratoi pryd 3 chwrs arbennig dan arweiniad y cogydd gwobrwyedig o Fethesda, Hywel Griffith ym Mwyty Friars, Bangor.

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at allu cynnal Gŵyl Fwyd Caernarfon am ddim i’r cyhoedd fel bod modd croesawu ymwelwyd o’r ardal leol ac o bell i fwynhau bwyd a diod o Gymru ar 12fed o Fai 2018.

Wedi gweithio yng Nghaer, Llundain, Machynlleth a mwy, mae Hywel erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Ne Cymru yn ei rôl fel Prif Gogydd ym mwyty Beach House ym Mae Oxwich. Derbyniodd y bwyty’r anrhydedd o’i henwi yn ‘AA Restaurant of the Year for Wales 2018’ yn ddiweddar.

CO NI OFF 2019!

Meddai Hywel;

Rydw i’n falch iawn o allu dychwelyd i Goleg Menai, ble ges i’n hyfforddi i goginio pan o’n i’n ifanc. Mae’n gyfle gwych i ddangos i’r myfyrwyr pam mor allweddol oedd yr hyfforddiant hwnnw yn y coleg a pham mor bwysig yw dal ati gyda’ch angerdd at goginio. Mae hi’n braf hefyd gallu cefnogi’r Ŵyl Fwyd drwy fod yn rhan o’r Cinio Gala. Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod digwyddiadau fel yr ŵyl am ddim ac yn agored i bawb o bob oed er mwyn iddynt allu profi a blasu bwyd o ansawdd.”

Dyma’r trydydd tro i’r Ŵyl Fwyd gydweithio gyda Choleg Menai ar gynnal Cinio Gala gan wahodd cyn-fyfyrwyr yn ôl i goginio gyda’r myfyrwyr newydd.

Dywed Frances Davies, Rheolwr Maes Rhaglen o Goleg Menai;

Mae hi mor braf gallu croesawu cyn-ddisgyblion yn ôl i helpu’r myfyrwyr presennol. Maent sicr yn ysbrydoliaeth i’r criw ifanc ac yn dangos bod llwyddiant yn y maes yn bosib ac o fewn eu gafael. Rydym sicr yn hapus iawn i gydweithio gyda threfnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon ar gynnal y Cinio Gala eto eleni. Mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen yn fawr at y profiad, ac rydym yn gweld o’r digwyddiadau blaenorol ei bod yn gyfle gwerth chweil iddynt brofi sefyllfa coginio a gweini ar raddfa fawr fel hon.

Fe werthodd pob tocyn i’r noson ar y dyddiad gwreiddiol a gellir defnyddio’r tocynnau hynny er mwyn mynychu ar y dyddiad newydd.  Os oes gan unrhyw un gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar gwylfwydcaernarfon@gmail.com

Os oes gennych docyn i’r digwyddiad gwreiddiol, ac NA allwch fynychu’r digwyddiad newydd, cysylltwch ag unrhyw aelod o grŵp Gwyl Fwyd Caernarfon neu ar yr e-bost uchod.

Os nad oedd gennych docyn ar gyfer y digwyddiad gwreiddiol, ond bod gennych ddiddordeb mynychu ar 17eg o Ebrill, mae tocynnau ar gael yn Palas Print, Caernarfon neu gallwch gysylltu â threfnwyr yr Ŵyl.  Pris tocyn yw £30 y pen, neu £25 y pen os yn archebu bwrdd o 8.  Mae bws hefyd ar gael o ardal Caernarfon am £5 y pen.

Dilynwch ni ar Twitter a Facebook am ddiweddariadau cyson.  Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Ngholeg Menai!

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd