DIOLCH am ŵyl arall bendiblasus!

MAI 14, 2018 - SOPHIE


Braf gweld Caernarfon yn brysur a pawb yn mwynhau yn yr haul yn Gwyl Fwyd Caernarfon. Dyma ddau clip sydun wedi ei tynu o twr y Castell yn edrych lawr ar yr digwyddiad.

Geplaatst door Elgan Jones Photography op Zondag 13 mei 2018

Wel, ma’r dre bellach yn ôl i’w ffurf arferol efo bob bariyr a bwrdd picnic nôl yn eu lle a bob tent wedi mynd… Dyna be oedd clamp o benwythnos!

Hoffai Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon ddiolch o waelod calon i chi gyd am ddiwrnod llwyddiannus, gwych arall! Diolch i’r holl stondinwyr, cogyddion, artistiaid, ac arweinwyr gweithgareddau am gadw pawb yn hapus drwy’r dydd, ac i bawb a ddaeth allan i’n cefnogi ni. Diolch hefyd i Elgan Jones am y fideo gwych. Ond yn bennaf oll, diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr ni am gadw trefn ar popeth – oni bai amdana chi, fydda na ddim GFC!

Hoe fach i’r trefnwyr rŵan, ac wedyn ymlaen at drefnu GFC 2019! 🍴🎉

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd