16 Ebrill 25
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, Mai 10, 2025, ac mae’r pwyllgor angen pobol leol i helpu i’w wneud yn ddigwyddiad anhygoel eto eleni! Mae’r ŵyl fwyd boblogaidd hon yn cael ei threfnu yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Heb gefnogaeth pobl leol, fyddai’r ŵyl yn amhosib. Pam gwirfoddoli?Mae pwyllgor yr ŵyl yn chwilio am unigolion, cyplau, neu grwpiau i sbario dim ond dwy awr ar ddiwrnod yr ŵyl. Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys dosbarthu rhaglenni a chasglu rhoddion yn y bwcedi codi arian. Mae disgwyl i’r ŵyl gostio dros £60,000 eleni, felly mae pob ceiniog yn hanfodol i gynnal y digwyddiad.
“Mae gwirfoddoli yn yr Ŵyl Fwyd yn gyfle gwych i siarad ef pobol, cyfarfod pobol newydd, a chefnogi gŵyl sy’n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Mae Cath Williams, sy’n gwirfoddoli eto eleni, wedi rhannu ei phrofiad: Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd